Hanes Dreigiau Cadw — Pennod Un: Brenin yn Troi’n Ddraig

Gadewch i ni ddechrau yn y dechrau.

Filoedd o flynyddoedd yn ôl, mewn cyfnod llawn dreigiau, gwrachod a chewri, cerddai Brenin Cymru yn ogofâu dwfn a thywyll Dinas Emrys.

Roedd y Brenin ar goll. Roedd wedi bod yn cerdded ers dyddiau yn nhywyllwch dudew yr ogofâu. Ar ôl cerdded am filltiroedd yn llwglyd ac yn llawn anobaith, dychmygwch ei ryddhad pan welodd wy mawr yn disgleirio yn y tywyllwch.

Dragon's tale — Chapter 1 — 1

Yn y dyddiau hynny, y gred oedd y byddai unrhyw greadur a fyddai'n bwyta wy draig mewn camgymeriad yn troi’n ddraig. Roedd y Brenin yn gwybod hyn. Ond roedd hefyd yn gwybod pa mor brin oedd wyau draig. Ac erbyn hynny, ar ôl siwrnai mor faith, doedd dim ots ganddo gan ei fod bron â marw eisiau bwyd.

Craciodd y Brenin yr wy a llywcio’r cyfan.  Yna, BANG! Diflannodd y Brenin, ac yn ei le safai draig anferthol.

Mae pawb yn gwybod bod dreigiau'n hoffi llefydd tywyll, tamp, felly roedd yn fodlon iawn ei fyd yn yr ogof. Ond wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, diflasodd ar yr ogof.  Roedd yn ysu am gael cwmni.

Felly mentrodd y Ddraig allan o’r ogof ac esgyn yn uchel uwchben Dinas Emrys, cyn hedfan i gyfeiriad y de i chwilio am gartref newydd.

Dragon's tale — Chapter 1 — 2

Bu'n hedfan am oriau lawer cyn sylwi ar furiau urddasol yn bell bell oddi tano. Plymiodd i lawr i gael gweld yn well, a glanio ar fryncyn castell trawiadol iawn. Castell Caerffili.

Yn ôl pob sôn, mae dreigiau, wrth reddf, yn cael eu denu at gestyll. Maen nhw wrth eu bodd â dwnsiwn i gael cuddio ynddo, ac yn hoffi cael tyrrau uchel i’w dringo. Doedd y Ddraig yma ddim gwahanol.

Treuliodd oriau’n crwydro o amgylch y castell, wedi'i chyfareddu’n llwyr, cyn gorwedd a gorffwys ar yr arglawdd, wedi blino'n lân.

Y bore wedyn, deffrodd i weld môr o wynebau syn. Yn digwydd bod, roedd wedi glanio yng Nghastell Caerffili yn barod am Ddydd Gŵyl Dewi – dathliad cenedlaethol yng Nghymru.

Roedd yn teimlo’n ofnus ar y dechrau, ond doedd dim angen — mae pobl Cymru wedi bod yn hoff o ddreigiau erioed. A doedd neb wedi gweld draig go iawn yng Nghymru ers canrifoedd, felly roedd pawb wedi cyffroi’n lân.

Wrth i'r diwrnod fynd yn ei flaen, aeth y dorf yn fwy ac yn fwy. Roedd y bobl mor falch o weld y Ddraig, dyma nhw’n penderfynu ei henwi’n Dewi — ar ôl eu nawddsant — a gofynnwyd i Dewi ddod i fyw yng Nghastell Caerffili.

Roedd Dewi yn fwy na pharod i dderbyn y cynnig, ac wedi gwirioni ar ei enw a’i gartref newydd. Felly bu'n crwydro tir y castell ac yn gwarchod y muriau am wanwyn cyfan...