Hanes Dreigiau Cadw — Pennod Tri: Andros o syrpreis

Roedd perthynas o bell Dewi a Dwynwen yn mynd yn dda iawn. 

Roedd y cwpl tanllyd yn trefnu dêt i’r dreigiau bob bythefnos ac weithiau’n mynd i hedfan yn hwyr y nos yn yr awyr uwchben Cymru;  dro arall byddent yn cyfarfod i fynd am dro yn nhirwedd odidog y wlad.

Dragon's tale — Chapter 3 — 1

Ond un diwrnod ym mis Ebrill, bu’n rhaid i Dwynwen ganslo’i dêt gyda Dewi. Roedd hi’n teimlo braidd yn wan ac yn amau a allai hi lwyddo i hedfan.

Roedd twymyn arni, roedd hi’n teimlo’n llwglyd drwy’r amser ac yn tisian tân o hyd.

Sylwodd ceidwaid clên Castell Caernarfon ar hyn a dechrau poeni am Dwynwen. Roedd rhywbeth yn bod arni.

Felly, dyma nhw’n ffonio’r milfeddyg lleol a ddaeth draw i’r castell i gael golwg arni. Daeth y milfeddyg â stethosgop a mwgwd weldio gydag o (rhag ofn y tisian tanllyd) a dechreuodd archwilio’r ddraig druan.

Ar ôl bod wrthi am ychydig funudau, dyma’r milfeddyg yn stopio’n sydyn — gyda’i stethosgop yn hofran uwch bol mawr y ddraig. Rhoddodd wên lydan a thynnu’r mwgwd oddi ar ei wyneb gan ddweud: “Nid sâl ydi Dwynwen —  mae hi’n cario wyau!”

Safodd Dwynwen a cheidwaid y castell mewn distawrwydd llethol am eiliad, cyn iddyn nhw ddechrau dathlu — roedden nhw mor gyffrous wrth feddwl am ddreigiau bach yn dod i’r castell!

Aeth y milfeddyg ymlaen: “Mae’n edrych yn debyg y bydd Dwynwen yn barod i ddodwy ei hwyau mewn diwrnod neu ddau. Rwy’n awgrymu gwneud nyth — ar unwaith!”

Dechreuodd Dwynwen fynd i banig. Doedd dim posib iddi ddodwy ei hwyau yn fan hyn — mor bell oddi wrth Dewi. 

A mwy na hynny, doedd ganddi hi ddim digon o egni i adeiladu nyth. Gwyddai y byddai ceidwaid y castell yn cymryd wythnosau i adeiladu nyth digon mawr i ddal wyau draig!

Gallai’r ceidwaid weld fod Dwynwen dan bwysau felly dyma nhw’n awgrymu iddi ddodwy ei hwyau yng Nghastell Caerffili. Drwy wneud hynny, gallai Dewi fod yn bresennol i helpu gyda’r paratoadau ar gyfer y newydd-ddyfodiaid — o adeiladu nyth i warchod yr wyau. 

Cytunodd Dwynwen ac aeth y ceidwaid cyffrous ati ar unwaith i drefnu lori fawr i yrru’r ddraig feichiog yr holl ffordd i Gaerffili.

Aeth y lori â Dwynwen ar ei thaith drwy’n nos a chysgodd hithau’n sownd yr holl ffordd — gan freuddwydio am ei dreigiau bach a gwenu wrth chwyrnu’n uchel.

Wedi cyrraedd, dringodd Dwynwen allan o’r lori ac edrych ar waliau godidog ffau Dewi. 

Allai hi ddim aros i ddweud ei newyddion wrth Dewi. Dringodd dros y waliau, ymlusgodd dros y bylchfuriau gan fynd ar flaenau’i thraed i chwilio am ei chariad cennog.

Roedd Dewi’n swatio mewn tŵr ar y pryd, yn mwynhau brecwast blasus o chwilod ar dost pan glywodd sŵn traed yn dringo’r tyred. 

Yn ddig fod rhywun yn torri ar draws ei frecwast, trodd ei ben — yn barod i chwythu tân ar bwy bynnag oedd yn meiddio tarfu arno ... Ond Dwynwen oedd hi!

Neidiodd mewn syndod, ei chofleidio’n dynn a gofyn beth ar y ddaear oedd hi’n ei wneud yno.

Gwenodd Dwynwen a dweud:
“Dewi — dw i angen i ti adeiladu nyth…”