Caniatâd Adeilad Rhestredig

Tŷ Uchaf, Discoed

Tŷ Uchaf, Discoed

Unwaith y bydd adeilad wedi'i restru, bydd angen cael Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer unrhyw waith a fydd yn newid ei gymeriad. Bydd angen i ymgeiswyr preifat gael caniatâd gan yr awdurdod cynllunio lleol a bydd angen i awdurdodau lleol wneud cais am ganiatâd i Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru. Os bydd yr awdurdod cynllunio o'r farn y dylid rhoi caniatâd, yn y rhan fwyaf o achosion atgyfeirir y papurau at Cadw.  Rôl Cadw yw ystyried y materion a godir gan y cais a nodi p'un a ddylid ei ‘alw i mewn’ i'w ystyried gan Lywodraeth Cymru ai peidio. Yn ymarferol, yr Is-adran Gynllunio neu'r Arolygiaeth Gynllunio fydd yn gyfrifol am hyn. Dychwelir y rhan fwyaf o geisiadau o fewn pedair wythnos i'r awdurdod cynllunio lleol priodol er mwyn iddo fynd ati i benderfynu arnynt.

Mae Cadw wedi dirprwyo Caniatâd Adeilad Rhestredig i rai awdurdodau cynllunio lleol sy'n golygu y gallant benderfynu ar geisiadau am ganiatâd ar gyfer adeiladau rhestredig Gradd 2 heb orfod hysbysu Cadw. Mae'r awdurdodau hyn wedi dangos i Cadw fod ganddynt lefel briodol ac amlwg o arbenigedd proffesiynol sydd wedi'i ategu gan bolisïau a gweithdrefnau clir i gyflawni dyletswyddau sy'n ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol heb orfod atgyfeirio ceisiadau at Cadw. Yr awdurdodau y mae Caniatâd Adeilad Rhestredig wedi'i ddirprwyo iddynt ar hyn o bryd yw Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Ni fwriedir i'r broses restru atal cynnydd. Mewn gwirionedd, mae'n rhoi cyfle i gynllunwyr, datblygwyr a grwpiau neu unigolion diddordeb arbennig ystyried pwysigrwydd hanesyddol neu bensaernïol adeilad. Mae'n gyfle i ystyried yn llawn wahanol opsiynau ar gyfer defnyddio'r adeilad yn y dyfodol a chynigion ar gyfer ei addasu neu ei ddymchwel hyd yn oed.

Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch a oes angen Caniatâd Adeilad Rhestredig neu ynghylch hynt ceisiadau am Ganiatâd Adeilad Rhestredig at adran gadwraeth neu adran gynllunio'r awdurdod cynllunio lleol priodol.

Dolenni i:

Polisi Cynllunio Cymru  

TAN12 Dylunio

Eithriad eglwysig

Nid oes rhaid i adeiladau rhestredig sy'n eiddo i chwe enwad ‘eithriedig’ ddilyn y broses Caniatâd Adeilad Rhestredig seciwlar.  Yn lle hynny mae Cadw wedi cytuno â phob un o'r enwadau y gallant gymeradwyo addasiadau i addoldai rhestredig yn unol â rheolaethau a roddwyd ar waith gan yr enwad hwnnw. Y sail ar gyfer eithrio pob un o'r enwadau cymeradwy yng Nghymru yw bod gan bob un ohonynt brosesau mewnol ar waith sy'n sicrhau lefel o graffu ar waith arfaethedig sydd o leiaf cystal â'r rheolaethau seciwlar cyfatebol a weithredir drwy awdurdodau cynllunio lleol. Gelwir hyn yn eithriad eglwysig a'r enwadau ‘eithriedig’ yng Nghymru yw:

  • Yr Eglwys yng Nghymru
  • Eglwys Loegr
  • Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Undeb Bedyddwyr Cymru
  • Yr Eglwys Gatholig
  • Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig
  • Yr Eglwys Fethodistaidd

Ceir manylion eithriadau a'r rheolaethau a weithredir gan y gwahanol enwadau yn ‘Gorchymyn Eithriad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1994’ ac ‘The Ecclesiastical Exemption - What is it and How it Works’ yn y drefn honno.  Adolygwyd y trefniadau ar gyfer eithriad eglwysig yng Nghymru yn 2004 ac mae angen gwneud newidiadau i'r Gorchymyn presennol i adlewyrchu newidiadau a gyflwynwyd eisoes yn Lloegr y mae Cadw yn bwriadu ymgynghori arnynt ar ddiwedd y flwyddyn, yn amodol ar ddymuniadau Llywodraeth newydd yng Nghymru.