Safleoedd Treftadaeth y Byd

Castell Harlech

Castell Harlech

Mae Safleoedd Treftadaeth y Byd yn lleoedd y mae Pwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO wedi eu harysgrifo ar restr o safleoedd rhyngwladol oherwydd eu gwerth cyffredinol eithriadol, y mae eu pwysigrwydd mor fawr y mae'n rhychwantu ffiniau cenedlaethol. Mae'n ofynnol i wledydd â safleoedd treftadaeth y byd roi'r lefel uchaf o ddiogelwch i'r lleoedd hyn, sy'n golygu gofalu am y safleoedd eu hunain a'u lleoliad hefyd. Mae hyn yn arwain yn anochel at rai cyfyngiadau ar ddatblygu mewn safleoedd treftadaeth y byd neu'n gyfagos iddynt.

Ar hyn o bryd mae gan Gymru dri safle treftadaeth y byd — Cestyll a Muriau Tref Edward I yng Ngwynedd — yng Nghaernarfon, Conwy, Biwmares a Harlech yng ngogledd-orllewin Cymru; Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn ne-ddwyrain Cymru; a Thraphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae pob un o'r rhain yn cynnwys ardal weddol fawr yn croesi ffiniau nifer o awdurdodau lleol ac mae gan bob un gynllun rheoli sy'n nodi manylion polisïau cynllunio pob awdurdod o ran diogelu'r safle. Mae gan rai, megis Pontcysyllte, glustogfeydd i ychwanegu ychydig mwy o ddiogelwch yn y dirwedd yn gyfagos i'r safle ac mae eraill, megis Cestyll Edward, wedi diffinio eu Lleoliad Hanfodol a'u Golygfeydd Pwysig yn eu cynlluniau rheoli er mwyn diogelu'r ardal o'u hamgylch. Ym mhob un o safleoedd treftadaeth y byd Cymru, yn eu clustogfeydd neu eu lleoliad hanfodol/golygfeydd pwysig mae llawer o dai neu dir sy'n eiddo preifat.

Caiff y gwaith o ddiogelu safleoedd treftadaeth y byd yng Nghymru ei weithredu drwy ganllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru, polisïau cynllunio awdurdodau lleol ac, yn aml, canllawiau cynllunio atodol a gyhoeddir gan yr awdurdodau lleol i roi arweiniad i ddatblygwyr a pherchnogion sydd ag eiddo yn safleoedd treftadaeth y byd neu eu clustogfeydd. Mae'r safleoedd hyn mor bwysig y cânt eu diogelu bron bob amser gan statws cofrestru neu restru neu ardal gadwraeth, er na fydd ffiniau'r ardaloedd a ddiogelir bob amser yr un fath o bosibl. Bydd angen caniatâd cynllunio ar unrhyw ddatblygiad neu newidiadau a wneir i eiddo yn safleoedd treftadaeth y byd ac mae'n bosibl y bydd angen caniatâd heneb gofrestredig neu ganiatâd adeilad rhestredig hefyd.

Os ydych yn berchen ar eiddo neu'n bwriadu datblygu eiddo yn un o safleoedd treftadaeth y byd neu o fewn clustogfa, lleoliad hanfodol neu olygfa bwysig, dylech gysylltu â'r awdurdod cynllunio lleol yn gyntaf i drafod unrhyw ganllawiau arbennig y maent wedi'u llunio, neu unrhyw ofynion cyffredinol ar gyfer datblygu. Mae'n bosibl y bydd angen cael Datganiad Dylunio a Mynediad yn cynnwys effaith bosibl ar y safle hefyd. Yn ogystal â hyn, efallai y bydd angen gwneud cais am ganiatâd heneb gofrestredig i Cadw neu gais am ganiatâd adeilad rhestredig i'r awdurdod lleol. Bydd angen datganiadau amgylcheddol ar ddatblygiadau ar raddfa fwy i gefnogi eu ceisiadau cynllunio.