Ymgynghoriad newydd am yr amgylchedd hanesyddol

Eglwys y Drindod Sanctaidd, Marcroes, Bro Morgannwg

Eglwys y Drindod Sanctaidd, Marcroes, Bro Morgannwg

Lansiwyd ein trydydd ymgynghoriad sy'n gysylltiedig â gweithredu Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 a mesurau ehangach sy'n ei hategu, ar 16 Ebrill. Rydym yn gofyn eich barn am orchymyn deddfwriaethol drafft ac am ganllawiau ar reoli mannau addoli rhestredig penodol yng Nghymru. Rydym yn awyddus hefyd ichi fynegi barn am ganllawiau newydd ar reoli henebion cofrestredig.

Yr Esemptiad Eglwysig

O dan delerau Gorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1994, mae chwe enwad crefyddol yng Nghymru yn cael eu hesemptio ar hyn o bryd rhag y prosesau sy'n gysylltiedig â gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig ac ardal gadwraeth: yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Loegr, Undebau Bedyddwyr Cymru a Lloegr, yr Eglwys Gatholig, yr Eglwys Fethodistaidd a'r Eglwys Unedig Ddiwygiedig. Nid yw hyn yn golygu bod rhwydd hynt i'r enwadau hyn wneud fel y mynnant â'u mannau addoli rhestredig. Yn hytrach, mae'n adlewyrchu'r ffaith fod ganddynt drefniadau a phrosesau mewnol sy'n golygu bod y craffu a wneir ar waith y bwriedir ei wneud o leiaf gystal â'r dulliau rheoli seciwlar a arferir gan awdurdodau cynllunio lleol.

Ar ôl cynnal adolygiad o'r drefn esemptio, drafftiwyd gorchymyn newydd er mwyn egluro sut mae'r drefn honno'n gweithio yng ngoleuni'r amodau a'r arferion eglwysig sydd i'w gweld yng Nghymru ar hyn o bryd. Dyma'r prif newidiadau yng Ngorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2018:

- dileu'r esemptiad rhag gwneud cais am gydsyniad ardal gadwraeth,
- tynnu'r Eglwys Unedig Ddiwygiedig o'r rhestr o enwadau esempt, ac
- egluro pa adeiladau y mae'r esemptiad yn berthnasol iddynt.

Paratowyd canllawiau newydd hefyd, 'Rheoli Newid i Fannau Addoli Rhestredig yng Nghymru: yr Esemptiad Eglwysig' i helpu'r enwadau wrth iddynt ddefnyddio'r esemptiad. Mae'n bosibl y byddant o ddefnydd hefyd i awdurdodau cynllunio lleol, cynulleidfaoedd, ac enwadau a grwpiau ffydd a allai fod â diddordeb mewn gwneud cais am esemptiad eglwysig yn y dyfodol.

Henebion cofrestredig

Paratowyd canllawiau newydd, 'Rheoli Henebion Cofrestredig yng Nghymru', i ychwanegu at y gyfres o ddogfennau a gyhoeddwyd ar y cyd â Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 ac sydd wedi cael cryn groeso. Bwriedir y canllawiau hyn yn bennaf ar gyfer pobl sy'n berchen ar henebion cofrestredig, yn eu meddiannu ac yn eu rheoli ac maent yn amlinellu'r arferion gorau, yn esbonio'r hyn y mae bod yn berchen ar heneb gofrestredig yn ei olygu, a sut i ofalu amdani. Mae'n rhestru'r egwyddorion cyffredinol y dylid cadw atyn nhw wrth reoli a gwneud newidiadau i henebion cofrestredig. Mae'n esbonio hefyd sut i wneud cais am ganiatâd heneb gofrestredig, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau'r perchennog a Cadw, ac yn manylu ar le mae cael gafael ar ragor o gymorth a chyngor.

Cofiwch ddweud eich dweud!


Bydd yr ymgynghoriad hwn, a fydd yn para deuddeg wythnos, yn dod i ben ddydd Gwener, 13 Gorffennaf 2018, a byddem yn croesawu'ch barn am unrhyw un neu bob un o’r materion dan sylw. Mae'r dogfennau ymgynghori i'w gweld ar dudalen ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y we, lle mae gwybodaeth hefyd ar sut i ymateb ar-lein, drwy'r e-bost neu drwy'r post.