Meysydd Brwydrau Hanesyddol

Bryn Glas (Pilleth)

Bryn Glas (Pilleth)

Roedd brwydrau hanesyddol yn aml yn ddigwyddiadau eiconig. Maen nhw'n corddi'r emosiynau ac yn ennyn teimladau cryfion hyd heddiw. Roedd enw da arweinydd gwleidyddol neu filwrol yn aml yn dibynnu ar ei lwyddiant ar faes y gad. Gall meysydd brwydr fod yn asedau hanesyddol gwerthfawr. Mae tystiolaeth dopograffegol ac archeolegol gan gynnwys beddau, wedi goroesi yn aml,  gan gynyddu'n deall o'r digwyddiadau mawr hyn.

Yn ôl ymgynghoriadau yn 2011 a 2013, gwelwyd bod cefnogaeth gref ymhlith y cyhoedd dros gydnabod pwysigrwydd y penodau tyngedfennol hyn yn ein hanes trwy greu cofnod llawn o feysydd brwydr Cymru. Gofynnodd Cadw felly i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru greu Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru.

Wrth baratoi'r rhestr, cynhaliwyd ymchwil ddogfennol faith ynghyd ag arolygon maes o nifer fach o safleoedd sydd trwy draddodiad wedi'u cysylltu â brwydrau allweddol. Yng ngoleuni'r ymchwiliadau hyn, mabwysiadwyd y diffiniad a ganlyn o faes brwydr ar gyfer y rhestr:

Ardal neu leoliad ar dir neu ar fôr lle bu gwrthdaro rhwng lluoedd arfog. Dylai pob agwedd ar orffennol Cymru gael ei hystyried wrth glustnodi safleoedd brwydrau hanesyddol. Gallent gynnwys brwydrau traddodiadol, gwarchaeoedd, goresgyniadau, ysgarmesoedd, ymosodiadau, cyflafanau a safleoedd helynt sifil.

Mae dros 700 o feysydd brwydr wedi'u nodi, gan amrywio o frwydrau yn y cyfnod Rhufeinig i safleoedd terfysg sifil yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r rhestr yn mapio'r safleoedd hyn gan ddefnyddio system arloesol sy'n defnyddio wyth lefel o sicrwydd ynghylch lleoliad y safle. Mae'n darparu gwybodaeth hefyd am y ffynonellau dogfennol a'r dystiolaeth archeolegol.

Wrth baratoi'r rhestr, gwelwyd mai ychydig o astudio o fu ar feysydd brwydr Cymru a phrin yw'n dealltwriaeth ohonyn nhw o'u cymharu â safleoedd cymharol yng ngweddill y DU ac Ewrop. Mae Cadw'n annog yn frwd unrhyw ymchwil i'r math hwn o ased yn yr amgylchedd hanesyddol ac yn croesawu cysylltiadau ynghylch cyfleoedd ymchwil yn y dyfodol.

Mae'r rhestr yn dangos pwysigrwydd meysydd brwydr fel elfennau arwyddocaol o amgylchedd hanesyddol Cymru. Yn ôl Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, rhaid nodi manylion pob maes sydd wedi'i rhoi ar y rhestr yng nghofnodion amgylchedd hanesyddol statudol yr awdurdod lleol perthnasol.  Mae'r cofnodion cyhoeddus hyn yn rhoi'r wybodaeth a'r dystiolaeth sydd eu hangen ar awdurdodau cynllunio lleol a rheolwyr tir eraill i allu gwneud penderfyniadau ynghylch yr amgylchedd hanesyddol.