Adeiladau ac Ardaloedd Cadwraeth

Plas Mawr

Plas Mawr

Mae adeiladau hanesyddol yn helpu i roi i Gymru ei chymeriad arbennig. Mae'r angen i ddiogelu'r enghreifftiau gorau wedi'i gydnabod ers amser maith mewn deddfwriaeth. Mae diogelwch arbennig wedi'i roi i adeiladau unigol o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig mewn cyfraith cynllunio, yn fwyaf diweddar Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 a ategir gan ganllawiau. Awdurdodau cynllunio lleol sy'n bennaf cyfrifol am lawer o'r gwaith y cyfeirir ato ac mae Cadw yn eu helpu i gyflawni'r rôl honno yn ogystal â chwarae rhan bwysig, mewn rhai achosion, yn y broses gynllunio. 

Rhestru

Mae Adran 1 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio rhestr o adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Arolygwyr adeiladau hanesyddol Cadw sy'n gyfrifol am asesu strwythurau ar gyfer eu rhestru.

Rhestrir eiddo o dan dri chategori:

  • Mae'r rhan fwyaf, sydd o ddiddordeb arbennig, yn rhestredig Gradd II.
  • Mae nifer llawer llai o adeiladau arbennig o bwysig yn rhestredig Gradd II*.
  • Mae adeiladau o ddiddordeb eithriadol (2 y cant o'r cyfanswm) yn y categori uchaf, sef Gradd I.

Mae pob adeilad a godwyd cyn 1700, ac sydd wedi goroesi yn ei gyflwr gwreiddiol, fwy neu lai, yn gymwys i'w restru, yn ogystal â'r rhan fwyaf o adeiladau sy'n dyddio o'r cyfnod rhwng 1700 a 1840. Rhwng 1840 a 1914, dim ond adeiladau o ansawdd a chymeriad pendant sy'n gymwys (yn enwedig y rhai sy'n enghreifftiau o waith pwysig penseiri amlwg). Mae rhai adeiladau sy'n dyddio o'r cyfnod rhwng 1914 a 1939 a nifer bach o adeiladau sy'n dyddio o'r cyfnod ar ôl y rhyfel hefyd wedi'u rhestru. Mae adeilad o werth, waeth beth fo'i oedran, yn gymwys i gael ei ystyried ar gyfer ei ddiogelu drwy ei restru.

Cwblhawyd arolwg o bob cymuned ar ddiwedd 2005 a arweiniodd at tua 30,000 o adeiladau yn cael eu rhestru. 

Ardaloedd Cadwraeth

Mae dros 500 o ardaloedd cadwraeth yng Nghymru. Fe'u dynodir gan awdurdodau cynllunio lleol oherwydd eu diddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig.

Nid yw dynodi ardal gadwraeth yn nod ynddo'i hun. Mae angen i awdurdodau lleol ddatblygu polisïau sy'n nodi'n glir pa nodweddion yn yr ardal y dylid eu diogelu neu eu gwella a sut y gellir gwneud hynny.

Mae llawer o awdurdodau wedi cynnal arfarniadau o gymeriad ardaloedd cadwraeth sy'n nodi ardaloedd y gall fod yn ddymunol eu gwella drwy waith datblygu. Cynnwys polisïau ar ardaloedd cadwraeth yng Nghynllun Datblygu statudol yr awdurdod lleol yw'r ffordd orau o integreiddio ardaloedd cadwraeth mewn polisïau cynllunio ehangach, megis y rhai sy'n ymwneud â rheoli siopa a thraffig.

Cysylltwch ag awdurdodau lleol unigol i gael rhagor o fanylion am ardaloedd cadwraeth penodol.