Parciau a Gerddi Hanesyddol

Mae gan Gymru etifeddiaeth gyfoethog o barciau a gerddi hanesyddol. Maent yn rhan bwysig ac annatod o hanes a diwylliant y wlad.

Castell Dinefwr

Castell Dinefwr

Cyhoeddwyd Cofrestr Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru yn gyntaf ar ffurf chwe chyfrol rhwng 1994 a 2002. Cyhoeddwyd cofrestr atodol o safleoedd ychwanegol yn 2007. Mae modd ychwanegu at y gofrestr unrhyw bryd ‒ mae bron 400 o safleoedd arni erbyn hyn.

Mae gan bob safle radd, naill ai gradd I, II* neu II yn yr un modd ag adeiladau rhestredig. Mae tua 10 y cant o'r safleoedd yn radd I ac mae 23 y cant yn radd II*. Mae'r parciau a'r gerddi sydd ar y gofrestr yn dyddio o'r oesoedd canol hyd at ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Mae llawer yn amlgyfnod a chanddynt nodweddion mewn gwahanol arddulliau sy'n perthyn i wahanol gyfnodau.

Nid oes unrhyw drefniadau cydsynio newydd ynghlwm wrth gofrestru. Diben cofrestru yw gwarchod a diogelu nodweddion hanfodol parciau a gerddi hanesyddol, ond ni ddylid ei ystyried yn rhwystr i newid. Nod cadwraeth yw rheoli unrhyw newidiadau yn ofalus: dod o hyd i'r ffordd orau o warchod a gwella rhinweddau arbennig y safle fel y gall cenedlaethau heddiw a'r dyfodol ei werthfawrogi a'i fwynhau. Mae'n bwysig nad yw datblygiadau ansensitif yn amharu ar gymeriad hanesyddol a gweledol parciau a gerddi hanesyddol.

Caiff parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig, a'u lleoliadau, eu gwarchod drwy'r system gynllunio. Mae'r awdurdod cynllunio lleol yn ymgynghori â Cadw ar geisiadau sy'n effeithio ar barciau a gerddi cofrestredig a/neu eu lleoliadau. Caiff yr awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru hefyd.

Dylech anfon unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â pharciau a gerddi hanesyddol at yr:

Arolygydd Parciau a Gerddi Hanesyddol
Cadw
Plas Caeriw
Uned 5/7 Cefn Coed
Parc Nantgarw
Caerdydd   CF15 7QQ

neu anfonwch e-bost i cadw@cymru.gsi.gov.uk