Tirweddau tanddwr

Mae newid yn yr hinsawdd a chynhesu byd-eang yn faterion llosg ar hyn o bryd, ond gorfu i bobl eraill — ein hynafiaid cynharaf — fod yn dyst i newidiadau dirfawr yn eu hamgylchedd hefyd. Gwyddom fod pedair Oes Iâ yn ystod y cyfnod Palaeolithig, rhwng tua 800,000 a 12,000 o flynyddoedd yn ôl. Rhwng yr Oesoedd Iâ hyn cafwyd cyfnodau twymach. Yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf, oherwydd y tymereddau oer a'r haenau iâ helaeth, roedd yn amhosibl byw mewn rhan helaeth o Ogledd Ewrop. Wrth i dymereddau godi a'r rhewlifau ddadmer tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl, dechreuodd pobl ymledu i'r gogledd a'r gorllewin. Fodd bynnag, wrth i'r rhewlifau ddadmer cododd lefelau'r môr. Aeth tiroedd isel ffrwythlon dan ddŵr, gan droi coetir yn forfa heli a gwthio morliniau yn ôl tuag at dir uwch. Collwyd tirweddau cyfarwydd, weithiau'n araf ac yn raddol ac weithiau'n hynod o gyflym, o fewn cof cenedlaethau byw.

Erbyn hyn gellir ailymweld â'r tiroedd coll hyn oddi ar arfordir Prydain fodern diolch i waith arloesol gan Brifysgol Birmingham. Mae wedi defnyddio data arolwg a gasglwyd gan gwmnïau masnachol i fapio gwely'r môr ac ystyried sut olwg oedd ar y tiroedd cynhanesyddol hyn.

Ni ellir gweld y tirweddau hyn yn fanwl ond gellir mapio nodweddion allweddol. Er enghraifft, gallwn weld lle y llifai cyrsiau afon 12,000 oed i mewn i lyn sylweddol yn ardal Môr Hafren heddiw. Byddai ardaloedd o dir isel o amgylch y llyn wedi bod yn llawn anifeiliaid i'w hela ac mae'n bosibl eu bod yn cynnwys olion archeolegol gwerthfawr. Caiff y math hwn o wybodaeth ei bwydo i mewn i'r broses gynllunio, gan helpu i sicrhau y diogelir ein treftadaeth.

Ariannwyd Prosiect Tirweddau Palaeolithig Arfordir y Gorllewin gan Gronfa Cynaliadwyedd yr Ardoll Agregau a weinyddir gan Lywodraeth Cymru ac English Heritage a chafodd arian gan Cadw hefyd.