Henebion Cofrestredig

Castell Caernarfon

Castell Caernarfon

Mae'r angen i ddiogelu'r enghreifftiau gorau o henebion wedi'i gydnabod ers amser maith mewn deddfwriaeth. Dechreuwyd diogelu henebion yn statudol yn 1882 pan basiwyd y Ddeddf Diogelu Henebion gyntaf a oedd yn diogelu 50 o henebion ym Mhrydain Fawr. Rhoddwyd diogelwch ehangach i henebion ac olion archeolegol o bwys cenedlaethol ar ôl hynny ac fe'i rheolir bellach gan Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 fel y'i diwygiwyd a'i diweddaru gan y Ddeddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.

Mae Deddf 1979 yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer diogelu henebion ac fe'i hategir gan ganllawiau a gyhoeddir gan Cadw. Mae'r Ddeddf hefyd yn ymdrin ag eiddo sydd dan ofal uniongyrchol Llywodraeth Cymru ac a reolir gan Cadw.   

Cofrestru

O dan Ddeddf 1979 mae Gweinidogion Cymru, drwy Cadw, yn llunio cofrestr henebion. Mae'r henebion ar y gofrestr o bwys cenedlaethol ac maent yn cynnwys amrywiaeth eang o safleoedd archeolegol. Gall rhai enghreifftiau fod wedi'u claddu'n gyfan gwbl o dan ddaear a dim ond drwy waith cloddio archeolegol y byddwn yn dod i wybod amdanynt.  Mae eraill yn llawer mwy amlwg ac maent yn cynnwys adfeilion mawr cestyll ac abatai canoloesol enwog sy'n sefyll. Yr enghraifft hynaf y gwyddom amdani yw ogof naturiol — y cafwyd ei bod yn cynnwys y dystiolaeth gynharaf o bobl yng Nghymru — sy'n dyddio'n ôl chwarter miliwn o flynyddoedd. Ym mhen arall y sbectrwm ceir strwythurau milwrol sy'n dyddio o'r ugeinfed ganrif. Mae henebion cofrestredig yn aml mewn cyflwr adfeiliedig neu led-adfeiliedig neu maent ar ffurf cloddwaith. Fel arfer diogelir strwythurau mwy cyflawn o bwys cenedlaethol fel adeiladau rhestredig.    

Mae dros 4,000 o henebion bellach wedi'u cofrestru ledled Cymru ac mae'r nifer yn cynyddu fel rhan o bolisi bwriadol parhaus i ychwanegu at y Gofrestr. Nod y rhaglen ychwanegu hon yw sicrhau bod y Gofrestr yn cynnwys yr enghreifftiau gorau o bob math o henebion yng Nghymru sydd o bwys cenedlaethol.