Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon

Arysgrifwyd yn 2000

Haearn a glo oedd y deunyddiau crai a oedd yn sail i'r Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain. Hwy oedd prif gynhyrchion Cymoedd de Cymru. Roedd pyllau glo a gweithfeydd haearn yn y Cymoedd o bwysigrwydd rhyngwladol am fwy na 150 o flynyddoedd. Tyfodd y cynhyrchiad o 39,600 o dunelli o haearn crai ym 1796 i 666,000 o dunelli ym 1852. Gwnaeth haearn o ffwrneisi a gefeiliau yng Nghymru helpu i adeiladu rheilffyrdd, gweithgynhyrchu peiriannau ac adeiladu ffatrïoedd ar bum cyfandir. Roedd glo Cymru yn danwydd ar gyfer llongau ager a châi ei allforio i lawer o borthladdoedd pell. Aeth ymfudwyr medrus â'u gwybodaeth a'u harbenigedd o dechnoleg mwyngloddio a gweithio haearn i bob rhan o'r byd, ynghyd â'r diwylliant unigryw a oedd wedi datblygu y Cymoedd.

Mae'r ardal o amgylch Blaenafon yn un o'r enghreifftiau gorau yn y byd o dirwedd a grëwyd gan waith glo a haearn ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif. Y ddau safle allweddol yw Gwaith Haearn Blaenafon, a reolir gan Cadw, a Big Pit, a reolir gan Amgueddfa Cymru. Roedd Gwaith Haearn Blaenafon yn gweithredu rhwng 1789 a 1902, ac yno gwelir gweddillion chwe ffwrnais chwyth yn dangos y datblygiad technolegol dros y cyfnod hwnnw. Defnyddiwyd ynni ager o'r dechrau, a gall ymwelwyr archwilio pob un o'r adeiladau ategol o amgylch y gwaith haearn: y tai bwrw haearn, ystafelloedd y boeleri, tai'r peiriannau, y tŵr cydbwyso dŵr unigryw ar gyfer codi a gostwng cerbydau rheilffordd, a'r tair rhes o dai gweithwyr sy'n ffurfio Stack Square. Ailddodrefnwyd y tai hyn i ddangos sut roedd pobl yn byw yn y 18fed ganrif, y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif ar y safle hwn. Mae Big Pit yn bwll glo a gloddiwyd gan Gwmni Blaenafon tua 1860. Roedd yn parhau i weithredu tan 1980. Mae ei holl adeiladau pen pwll gan gynnwys y fframin pen pwll, y peiriannau weindio a'r baddonau wedi goroesi yno, ac mae'n enwog am fod yn un o ddau le yn unig ym Mhrydain lle y gall ymwelwyr fynd ar daith danddaearol a chael profiad o'r amodau gwaith roedd y glöwyr yn eu goddef.

Mae'r dirwedd a'r treflun mor bwysig â'r safleoedd. Mae'r ardal fawr o dir a brydleswyd gan Gwmni Blaenafon ym 1789 yn sail i'r safle Treftadaeth y Byd. Roedd yn cynnwys y deunyddiau crai yr oedd eu hangen i wneud yr haearn bwrw: haearnfaen, glo a chalchfaen, a dŵr i helpu i bweru'r peiriannau. Mae olion helaeth chwareli a mwyngloddiau yn y bryniau o amgylch Blaenafon, ac mae tystiolaeth yn goroesi hefyd o reilffyrdd ar gyfer cerbydau a dynnid gan geffylau — a'u twneli a'u hincleiniau — a ddefnyddid i gludo deunyddiau crai i'r gweithfeydd haearn a dychwelyd yr haearn bwrw i efail Garnddyrys. O'r fan honno, câi haearn gorffenedig ei gludo i lawr i Gamlas Brycheiniog a'r Fenni yn Llan-ffwyst ac i'r byd allanol. Gosodwyd llwybrau cerdded i ymwelwyr archwilio'r dirwedd hon.

Mae tref Blaenafon hefyd yn rhan o'r safle Treftadaeth y Byd gyda'i strydoedd o dai gweithwyr, anheddiad unigryw Forgeside, ei heglwys â ffrâm haearn, sefydliad y gweithwyr ac Ysgol Sant Pedr. Addaswyd yr ysgol yn Ganolfan Treftadaeth y Byd a chaiff ei rhedeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Dyma'r lle gorau i ddechrau cael eich cyflwyno i'r safle Treftadaeth y Byd yn gyffredinol.

Dolenni:

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon

Ceir rhagor o wybodaeth am gyflwyno tirwedd ddiwydiannol Blaenafon ar wefan UNESCO, yn cynnwys y datganiad o Werth Cyffredinol Eithriadol.