Cyhoeddiadau newydd

Ein teitlau mwyaf diweddar ar reoli amgylchedd hanesyddol Cymru mewn ffordd gynaliadwy

Llanfairfechan

Llanfairfechan

Canllawiau arferion gorau

Mae Rheoli Newid ar Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru yn pennu yr egwyddorion cyffredinol i ddeall a rheoli Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru, gan gynnwys sut y cânt eu diogelu drwy'r system gynllunio.

Mae'r canllaw arfer gorau hwn wedi'i anelu'n bennaf at y rhai hynny sy'n gwneud penderfyniadau, gan gynnwys awdurdodau lleol, ymgymerwyr statudol a darpar ddatblygwyr, i godi proffil Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru a helpu iddynt reoli newid heb gael effaith negyddol ar eu Gwerth Cyffredinol Eithriadol. Gall Rheolwyr a rhanddeiliaid Safleoedd Treftadaeth y Byd ei weld yn ddefnyddiol hefyd i lywio cynlluniau rheoli, ochr yn ochr â Operational Guidelines for the Implementation of the World Heritage Convention UNESCO.

Mae Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru yn pennu yr egwyddorion cyffredinol i'w hystyried wrth wneud newidiadau i adeiladau rhestredig ac mae'n egluro sut i wneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig, gan gynnwys swyddogaethau a chyfrifoldebau perchnogion, awdurdodau cynllunio lleol a Gwasanaeth yr Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw).

Mae'r canllaw arfer gorau hwn wedi ei anelu'n bennaf at berchnogion adeiladau r hestredig ac asiantaethau sy'n gweithredu ar eu rhan i helpu iddynt ddeall goblygiadau bod yn berchennog ar adeilad rhestredig a gwneud newidiadau iddo.

Mae Rheoli Ardaloedd Cadwraeth yng Nghymru yn pennu y cyd-destun polisi ar gyfer dynodi a rheoli ardaloedd cadwraeth a dyletswyddau awdurdodau cynllunio lleol. Mae hefyd yn nodi prif agweddau arfer gorau am eu dynodiad a'u gwerthusiad, gan gynnwys cyfraniad rhanddeiliaid a datblygu polisïau lleol ar gyfer rheoli positif a gwelliant fel bod eu cymeriad a'u hymddangosiad yn cael eu cadw a'u gwella.

Mae'r canllaw arfer gorau hwn wedi'i anelu'n bennaf at awdurdodau cynllunio lleol i sicrhau dull cyson o ddynodi ardaloedd cadwraeth, arfarnu a rheoli ledled Cymru.

Mae Asesiadau o’r Effaith ar Dreftadaeth yng Nghymru yn pennu yr egwyddorion cyffredinol i'w hystyried wrth gynllunio newidiadau i asedau hanesyddol a gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig ac ardal gadwraeth.

Mae'r canllaw arfer gorau hwn ar gyfer perchenogion a phreswylwyr asedau hanesyddol a'u hasiantwyr yn bennaf. Bydd yn helpu iddynt ddeall pam, pryd a sut i ddefnyddio proses yr asesiad o'r effaith ar dreftadaeth ac i baratoi datganiadau o'r effaith ar dreftadaeth.

Mae Rheoli Rhestrau o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig yng Nghymru yn pennu yr egwyddorion cyffredinol a'r arferion da ar gyfer paratoi a rheoli rhestrau o asedau hanesyddol lleol — gan gynnwys meini prawf, enwebu, ymgynghori, dilysu, apeliadau a monitro — ac mae'n rhoi canllawiau ar gyfer eu defnyddio yn y system gynllunio.

Mae'r canllawiau hyn wedi eu hanelu'n bennaf at awdurdodau cynllunio lleol, ond hefyd sefydliadau'r trydydd sector a pherchnogion asedau hanesyddol, i annog pob sector i gydweithio i ddiogelu a gwella asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig.

Mae Rheoli Adeiladau Rhestredig sydd mewn Perygl yng Nghymru yn rhoi amlinelliad o'r berthynas hollbwysig sydd rhwng defnydd, perchnogaeth a chyflwr adeilad, a sut y gellir rheoli'r cydbwysedd gofalus rhwng yr elfennau hyn i sicrhau dyfodol cynaliadwy. Mae'n rhoi amlinelliad o swyddogaethau a chyfrifoldebau perchnogion, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Mae'n dangos sut y gall polisïau a rhaglenni i reoli adeiladau rhestredig sydd mewn perygl fod yn llwyddiannus, ond mae hefyd yn egluro'r pwerau statudol y gellir eu defnyddio i ddiogelu adeiladau rhestredig sydd mewn perygl ble y bo hynny'n briodol.

Mae'r canllaw arfer gorau hwn wedi'i anelu'n bennaf at adrannau cadwraeth awdurdodau lleol, cynllunio, tai, adfywio a datblygu. Gallai hefyd fod o ddiddordeb i berchnogion, preswylwyr ac asiantwyr, yn ogystal â chymunedau lleol a sefydliadau'r trydydd sector sydd â'r swyddogaeth hollbwysig o ofalu am adeiladau rhestredig sydd mewn perygl.

Mae Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru yn egluro beth yw lleoliad, a sut y mae'n cyfrannu at bwysigrwydd ased hanesyddol a pham bod hyn yn bwysig. Mae'n rhoi amlinelliad o'r egwyddorion sy'n cael eu defnyddio i asesu effaith bosibl datblygiad neu gynigion i reoli tir o fewn lleoliadau Safleoedd Treftadaeth y Byd, henebion (rhestredig a heb eu rhestru), adeiladau rhestredig, parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig ac ardaloedd cadwraeth.

Mae'r canllaw arfer gorau hwn wedi'i anelu at ddatblygwyr, perchnogion ac asiantwyr, a ddylai ei ddefnyddio i lywio cynlluniau rheoli a chynigion ar gyfer newid a allai gael effaith ar bwysigrwydd ased hanesyddol a'i leoliad.

Mae Rheoli Newid i Barciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig yng Nghymru yn pennu egwyddorion cyffredinol i'w dilyn pan yn ystyried newidiadau a allai gael effaith ar barciau a gerddi hanesyddol cofrestredig. Mae'n egluor statws parciau a gerddi Hanesyddol Cofrestredig yng Nghymru a'u lle o fewn y system gynllunio, gan gynnwys swyddogaethau a chyfrifoldebau perchnogion, awdurdodau cynllunio lleol, cymdeithasau amwynderau a Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw). Er bod y gofrestr yn un statudol, nid yw'r gofrestr yn cyflwyno unrhyw drefn gydsynio newydd.

Mae'r canllaw arfer gorau hwn wedi'i anelu'n bennaf at berchnogion parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig, ac asiantwyr sy'n gweithredu ar eu rhan, i helpu iddynt ddeall goblygiadau bod yn berchennog parc neu ardd hanesyddol gofrestredig a rheoli'r newidiadau sy'n cael effaith arno.

Mae Rheoli Nodweddion Hanesyddol yng Nghymru yn egluro pam ei fod yn bwysig i gydnabod nodweddion hanesyddol a'i ddefnyddio fel sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwaith cadwraeth, adfywio a chynllunio. Mae'n dangos sut y gall bolisïau a rhaglenni i reoli newid gael ysbrydoliaeth o'r gorffennol i helpu i greu a chynnal lleoliadau unigryw at y dyfodol. Mae Rheoli Nodwedidon Hanesyddol yng Nghymru, yn ogystal â Rheoli Rhestrau o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig yng Nghymru, yn canolbwyntio ar yr agweddau hynny o dreftadaeth leol sydd â gwerth sylweddol i gymunedau lleol, gan gynnwys y rhai hynny sydd heb eu dynodi oherwydd eu diddordeb neu eu pwysigrwydd cenedlaethol arbennig.

Mae canllawiau arfer gorau wed'i anelu'n bennaf at gadwraeth o fewn awdurdodau lleol, adrannau cynllunio, tai, adfywio a datblygu, yn ogystal ag adrannau Llywodraeth Cymru. Bydd hefyd o ddiddordeb i gymunedau lleol a sefydliadau'r trydydd sector, yn ogystal â pherchnogion, datblygwyr ac asiantwyr, sydd â swyddogaeth hollbwysig wrth adnabod, hyrwyddo a gofalu am nodweddion hanesyddol lleol.

Canllawiau statudol

Mae Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru: Llunio a Defnyddio wedi'i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru fel canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru, a Cyfoeth Naturiol Cymru o dan bwerau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Mae'n esbonio sut y gallai'r cyrff cyhoeddus hynny gyfrannu at lunio cofnodion amgylchedd hanesyddol a sut y dylent ddefnyddio’r cofnodion hynny wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Er bod yn rhaid i'r cyrff cyhoeddus dan sylw ystyried y canllawiau hyn, byddant hefyd yn berthnasol i amrywiaeth o gyrff eraill yn y sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat sy'n ymddiddori yn amgylchedd hanesyddol Cymru.