Glannau Caernarfon

Glannau Caernarfon

Glannau Caernarfon

Bu glannau Caernarfon, ger y castell a'r dref gaerog, yn rhan annatod o ffyniant y dref drwy gydol ei hanes. Mae'n debyg y bu harbwr yma ymhell cyn sefydlu'r dref a'r castell canoloesol ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg.  Roedd y dref yn cael budd o ddwy afon weithiol yn ogystal â ffryntiad hir i Afon Menai a oedd yn darparu cysylltiadau masnachu hanfodol.  Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygwyd aberoedd yr afonydd fel harbwrs - Doc Fictoria ar gyfer masnach arfordirol gyffredinol, a'r Cei Llechi fel harbwr arbenigol ar gyfer allforio llechi. Yn gysylltiedig â strwythur trawiadol Doc Fictoria ceir olion cyfres o gaeadleoedd a rhai adeiladau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg - sy'n ein hatgoffa o hanes gwaith y porthladd.  Cynlluniwyd y Cei Llechi fel cyfres o gaeadleoedd hefyd lle storiwyd llechi a lle roedd diwydiannau bach yn gweithredu.  Rhwng ardaloedd y ddau harbwr, cafodd y glanfeydd canoloesol ar lannau'r Fenai fywyd newydd fel promenâd. Heddiw, mae cerdded ar hyd y glannau yn gyfystyr â cherdded drwy benodau niferus hanes y dref.

Cynhaliwyd yr astudiaeth hon er mwyn llywio cynigion ar gyfer adfywio'r glannau, sy'n rhan allweddol o leoliad Safle Treftadaeth y Byd y castell a muriau'r dref. Mae hefyd yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i ddatblygiad hanesyddol a nodweddion y dref gyfan, ac yn ffynhonnell gwybodaeth ar gyfer cynllunio a rheoli, ac ar gyfer unrhyw un sydd am ddysgu mwy am Gaernarfon a'i glannau.

Gweler canlyniadau Prosiect Adfywio Glannau Caernarfon ar ein tudalen Partneriaethau a Phrosiectau yma.