Dinbych

Ochr yn ochr â'r castell ar ben y bryn, mae muriau tref Dinbych. Dim ond nifer fach o adeiladau a welir o fewn y muriau bellach, ac mae'r dref go iawn wedi ymestyn y tu hwnt iddynt.  O ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, roedd dau anheddiad yma eisoes, un o fewn y muriau a'r llall y tu allan iddynt. Dirywiodd y dref o fewn y muriau yn raddol, tra bod y dref y tu allan i'r muriau wedi ffynnu a thyfu. Gwelwyd datblygiadau cynnar o amgylch marchnadle i ddechrau, ond dechreuwyd codi adeiladau ar y man agored hwn erbyn dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg. Ar gyrion y man hwnnw, ac i lawr y bryn hir a adnabyddir bellach fel Stryd y Dyffryn, cynlluniwyd y datblygiadau'n fwy ffurfiol mewn lleiniau rheolaidd.  Mae Dinbych yn cynnwys rhai adeiladau cynnar nodedig, yn dai trefol a siopau, ac mae ei ffyniant parhaus fel tref farchnad ranbarthol wedi gadael etifeddiaeth o adeiladau coeth o sawl cyfnod. Mae'r hanes hir hwn o adeiladu yn rhoi amrywiaeth sylweddol i'r treflun gyda chymysgedd ddiddorol o wahanol fathau o adeiladau a deunyddiau adeiladu. Gyda'i lleoliad trawiadol ar ben y bryn, mae Dinbych yn dref ddiddorol i grwydro drwyddi.

Paratowyd yr astudiaeth i ddarparu fframwaith a fyddai'n dwyn ynghyd fentrau unigol, yn cynnwys Menter Treftadaeth Treflun, ac yn gosod cyd-destun ar gyfer arolygon manwl o adeiladau unigol.  Mae'n rhoi cyflwyniad i gymeriad hanesyddol y dref gyfan, yn llinell sylfaen ar gyfer cynllunio a rheoli, ac yn ffynhonnell wybodaeth i unrhyw un sydd am ddysgu mwy am Ddinbych.