Dolgellau

Dolgellau

Dolgellau

Yng nghanol Dolgellau mae anheddiad Cymraeg canoloesol, a ddatblygodd i fod yn farchnad a chanolfan fasnachu lewyrchus ac yn un o ganolfannau'r diwydiant gwlân, cyn dod yn lle pictiwrésg poblogaidd ar gyfer ymwelwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Adlewyrchir gorffennol canoloesol a masnachol Dolgellau yn strwythurau rhyfeddol canol y dref, lle mae'r adeiladau'n llenwi leiniau afreolaidd o dir, wedi'u rhannu gan lonydd ac aleau troellog sy'n agor allan yn sydyn ar fannau agored.  Cyflwynwyd y nifer fach o linellau syth a welir yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg er mwyn ceisio rhoi trefn ar y cynllun trefol hwn sy'n ymddangos fel pe bai wedi digwydd ar hap a damwain.  Ceir adeiladau o fathau gwahanol wedi'u gwthio i mewn, gyda thai trefol, gweithdai, warysau a siopau yn taflu eu cysgodion dros fythynnod bychain. Ar gyrion canol y dref ceir filas gyda'u tiroedd eu hunain, a adeiladwyd wrth i'r dref ennill ei phlwyf fel cyrchfan ffasiynol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r cerrig adeiladu lleol yn unigryw, yn bennaf oherwydd maint anferthol rhai o'r blociau. Mae'n rhoi nodweddion cytûn i'r dref.

Paratowyd yr astudiaeth o Ddolgellau i gefnogi Menter Treftadaeth Treflun a oedd yn canolbwyntio ar yr ardal gadwraeth, ond mae'n rhoi cyflwyniad i nodweddion y dref gyfan ar gyfer unrhyw un sydd am ddysgu mwy am Ddolgellau.