Tarddiadau a Chynhanes Cymru

Siambr Gladdu Bryn Celli Ddu

Siambr Gladdu Bryn Celli Ddu

Teitl: Fframwaith Dehongli ar gyfer Gwreiddiau a Chynhanes Cymru 250,000 CC i OC 47/78
Dyddiad: Mai 2011
Crëwr: C Lloyd Brown a D Patrick

Mae'r cynllun yn cyflwyno fframwaith ar gyfer cyflawni dull "mwy cydlynol a chymhellol" o ddehongli cynhanes Cymru i ymwelwyr ac mae'n dilyn y cyfnod o'r adeg y daeth yr anheddwyr Neanderthalaidd cyntaf i'r tir hyd at oresgyniad y Rhufeiniaid yn y pen draw. Ymysg y safleoedd sy'n gysylltiedig â'r cyfnod hwn mae Castell Henllys (bryngaer a phentref a ailadeiladwyd o'r Oes Haearn), Din Llugwy (anheddiad Brythonaidd-Rufeinig), Ogof Pen-y-fai (y bedd dynol hynaf), Pentre Ifan (beddrod siambr), a'r Oriel Gwreiddiau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r cynllun hwn yn cyd-fynd â llinyn stori ehangach sef 'Gwreiddiau, cynhanes a goresgyniad a setliad y Rhufeiniaid'. Mae ganddo gysylltiadau agos â chynllun dehongli 'Goresgyniad, Meddiannaeth a Gwladychiad y Rhufeiniaid yng Nghymru OC 47-410' yn benodol.

Y dull gweithredu
Nod y cynllun yw creu 'ymdeimlad o ryfeddod' mewn safleoedd cynhanesyddol a fydd hefyd yn ennyn ymdeimlad o 'barch at orffennol yr henfyd'.  Mae'n awgrymu y dylid trefnu gweithgarwch o amgylch clystyrau daearyddol a thematig o safleoedd, ac y dylai pob clwstwr gael 'porth' (e.e. Castell Henllys yn Sir Benfro). Mae hefyd yn nodi rôl Oriel Gwreiddiau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fel porth cenedlaethol i roi cyd-destun i'r stori hon.

Mae'n defnyddio'r cysyniad o hynafiaid a'u rolau (e.e. helwyr, gwneuthurwyr arfau, artistiaid, ymchwilwyr i'r byd ysbrydol ac ati) a'i nod yw defnyddio'r rhain: "...i greu darlun o unigolion nad ydynt yn wahanol iawn o ran eu hanghenion corfforol a chymdeithasol i ymwelwyr y 21ain ganrif efallai".