Hen Caerwys

Cloddio am weddillion diddorol — o nifer o gyfnodau — yng nghoetiroedd Coed y Marian a Choed Gerddi-gleision.

Gwirfoddolwyr yn cloddio yn anheddiad canoloesol diffaith yr Hen Gaerwys, Sir y Fflint.

Gwirfoddolwyr yn cloddio yn anheddiad canoloesol diffaith yr Hen Gaerwys, Sir y Fflint.

Ystyrir Hen Caerwys yn draddodiadol yn bentref canoloesol anghyfannedd, ond gallwn ei ddisgrifio'n well efallai fel tirwedd wedi'i ffosileiddio, sy'n llawn nodweddion cymhleth anheddiad, amaethyddiaeth a diwydiant o gyfnodau gwahanol o bosibl.

Cofnodwyd olion cloddiau, waliau a llwyfannau tai yng nghoetiroedd Coed y Marian a Choed Gerddi-gleision am y tro cyntaf gan W.J. Hemp yn 1960. Galwodd Hemp hwy yn Hen Caerwys, ar ôl ymgynghori â'r hanesydd Canon Ellis Davies - gan dybio iddynt ragflaenu'r dref ganoloesol.

Mae gwaith cloddio gan Cadw, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys a gwirfoddolwyr lleol ar hyn o bryd yn ailedrych ar waith cloddio'r 1960au i gael dealltwriaeth well o'r safle hynod hwn.

Ynghyd â gwaith ymchwil dogfennol sy'n mynd rhagddo, bydd hyn, gobeithio, yn ailsefydlu Hen Caerwys fel heneb bwysig yn yr astudiaeth o anheddu canoloesol yng ngogledd Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth am y safle diddorol hwn yn y flog Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys.