Artist Preswyl

Mae Cadw wedi ymuno â Chyngor Celfyddydau Cymru i greu cyfres o gyfnodau preswyl i artistiaid ledled Cymru dros dair blynedd.

???cadw.media.no_js???

Nodau’r bartneriaeth strategol yw:

  • Galluogi artistiaid i ymdrwytho mewn safleoedd a chreu gwaith newydd sy’n ymateb i gyd-destun heneb, yn hanesyddol ac yn y gymuned
  • Datblygu a chyflwyno, mewn partneriaeth, raglen arloesol o gelf yn y bau gyhoeddus a fydd yn gosod harddwch wrth wraidd y gwaith cyflwyno a’r deilliannau
  • Hybu rhagoriaeth ac arloesi mewn celf yn y bau gyhoeddus drwy rannu gwybodaeth ac arbenigedd ymysg gweithwyr proffesiynol yn y celfyddydau a’r tu allan i’r celfyddydau.
  • Sicrhau bod ymgysylltu cyhoeddus yn ganolog i ddatblygiadau mewn celf yn y bau gyhoeddus a’i fod yn gatalydd ar gyfer dychymyg y cyhoedd ynglŷn â mannau cymunedol.
  • Darparu model sy’n hybu cynaliadwyedd a hynny wrth gyflawni a datblygu’r sector celf cyhoeddus.
  • Ennyn diddordeb y cyhoedd mewn arferion creadigol
  • Codi proffil arferion cyfredol yn y celfyddydau
  • Creu cysylltiadau rhwng y ffyrdd y mae pobl fel rheol yn cyd-adweithio â henebion Cadw ac arferion cyfredol yn y celfyddydau.

Manon Awst yng Nghaer Rufeinig Segontium

Yn 2014, penodwyd yr arlunydd lleol Manon Awst gan Cadw a Chyngor Celfyddydau Cymru fel arlunydd preswyl yng Nghaer Segontium, Caernarfon.
Crëwyd darn olaf Manon trwy gydweithio gyda nifer o arlunwyr a myfyrwyr, dawnswyr a cherddorion lleol er mwyn creu set ffilm a ysbrydolwyd gan adfeilion Caer Rufeinig Segontium.

Rhoddodd Manon greadigrwydd ac arbenigedd ar waith ym meysydd pensaernïaeth, cerflunwaith, celf a pherfformiad cyhoeddus i ddatblygu gwaith a digwyddiadau newydd oedd yn gysylltiedig â Segontium, fel Helfa Gelf a Gŵyl Arall/AnOther Festival. Gweithiodd yn helaeth gyda’r gymuned i gasglu adborth, barnau a syniadau i ddod â’r safle’n fyw a chreu ymdeimlad o ddealltwriaeth, gwerthfawrogiad a balchder ymhlith y trigolion lleol.
Roedd hyn yn cynnwys nifer o weithdai gydag Ysgol yr Hendre’n lleol, lle daeth y lluniau a wnaed gan y plant yn sylfaen i ddyluniad baneri  mawr yr ŵyl er mwyn hyrwyddo a dangos y mynediad i’r gaer Rufeinig.

Yn ogystal, daeth arlunwyr a chelf-garwyr lleol at ei gilydd am noson o gyflwyniadau’n seiliedig ar fformat Japaneg poblogaidd Pecha Kucha: sef celfyddyd cyflwyniadau cryno (20 delwedd x 20 eiliad) gan ddarparu cyfle gwych i drafod gwaith a rhannu syniadau, gan ddefnyddio’r ganolfan ymwelwyr fel lle cymdeithasol arall.

Trefnwyd gweithdy creadigol gyda phobl ifanc a myfyrwyr, gan edrych ar archeoleg, ffotograffiaeth ac ysgythru ar garreg a chan archwilio’r syniad o wneud marciau sy’n cyfeirio at graffiti Rhufeinig a graffiti cyfoes sydd i’w weld yn nhref Caernarfon. Yn y gweithdy, dechreuwyd ar ddarn cerfluniol ar gyfer y tu allan i’r ganolfan ymwelwyr, gan bontio’r prosesau gwneud marciau hanesyddol a’r mathau cyfoes o gyfathrebu.

Archwiliodd farathon perfformiad pedwar diwrnod, ar y cyd â’r Cofis  Bach, Caernarfon, themâu cyfathrebu a chan ddefnyddio Segontium fel llwyfan ar gyfer gêm. Daethpwyd â grŵp o bobl ifanc o ardal leol Peblig a grŵp o weithwyr creadigol proffesiynol o Gwmni Cofis Bach at ei gilydd gan Manon i ddod â bywyd newydd i’r safle trwy gerddoriaeth, drama a chelf. Arweiniodd y marathon 4 diwrnod at berfformiad cyhoeddus awyr agored yn Segontium ar ddydd Gwener 25 Gorffennaf. Ymgorfforodd yr heriau, gan ddefnyddio gwahanol ardaloedd y gaer, ddulliau cyfathrebu: gwaith tîm, parch, ffiniau, y cyfryngau cymdeithasol ac ati. Rhannwyd y myfyrwyr yn wahanol dimau: y rhai oedd yn wynebu’r heriau, y band a’r corws a arweiniodd y gynulleidfa i bob lefel.

Mae gwaith a gweithgareddau Manon wedi’u dal a’u hyrwyddo ar-lein trwy ei blog www.segontium.tumblr.com.
 

Yn ogystal, gwelodd Haf 2014 breswyliad yr arlunydd lleol Wendy Couling ym mhlasty Tuduraidd, Plas Mawr yng Nghonwy ac arddangosfa deithiol o gerfluniau ffotosfferig Matt Wright o Gaerdydd.

Wendy Couling ym Mhlas Mawr

Gweithiodd yr Arlunydd Lleol, Wendy Couling fel Arlunydd Preswyl ym Mhlas Mawr, Conwy ar hyd mis Awst. Chwiliodd Wendy am ysbrydoliaeth yn y plasty Tuduraidd, sydd ar Stryd Fawr hanesyddol Conwy, gan greu gwaith celf, siarad ag ymwelwyr â’r tŷ ac ymchwilio i hanes y safle.
Yn sgil y gwaith celf a luniwyd, a ysbrydolwyd gan y lle, y symbolaeth a bodolaeth y trigolion, gwahoddwyd ymwelwyr i’r tŷ i ymchwilio ac archwilio’r lleoedd ynddo, gan ryngweithio gyda gosodiadau y bydd ganddynt gysylltiad dynol a ysbrydolwyd gan fywydau’r trigolion a’r adeilad.

Arddangosfa deithiol ffotosfferig Matt Wright

Defnyddiodd Matt Wright, ffotograffydd 360º, ddelweddau diffiniad uchel i greu cerfluniau a ysbrydolwyd gan wyth o safleoedd mwyaf eiconig y wlad sef Pentre Ifan, Gwaith Haearn Blaenafon, Abaty Tyndyrn, Porthgain, Abaty Glyn y Groes, Grŵp Cytiau Din Lligwy ar Ynys Môn a Chastell Rhaglan.
Ymddangosodd cerfluniau ffotosfferig Matt yn safleoedd Cadw ar draws Cymru yn ystod mis Awst a mis Medi 2014. Bydd y cerfluniau terfynol a’r ddogfennaeth o ganlyniad i hynny’n ffurfio arddangosfa deithiol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru a fydd yn cael ei lansio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Mehefin 2015.

 

Lucy Harvey yn Abaty Glyn-y-groes

Yn 2013, cafodd y gwneuthurwr cyfoes Lucy Harvey ei phenodi’n artist preswyl yn Abaty Glyn-y-groes, Llangollen.

Cafodd Lucy, sy’n dod o Fanceinion, ei hyfforddi fel gemydd yn wreiddiol ond erbyn hyn mae’n defnyddio’i hangerdd ynglŷn â phethau cywrain i greu arteffactau manwl. Yn ystod ei chyfnod preswyl, bu’n ymchwilio ac yn ymateb i waddol gwaith creu a thrwsio drwy’r abaty ac yng nghyd-destun ehangach diwylliant Cymru, gan ysbrydoli argraffiadau newydd ynglŷn â’r safle a chysylltu ei dreftadaeth â’r tirlun cyfoes.

Drwy ddarganfod ei gwaith, a gafodd ei osod mewn cilfachau a chorneli bach, gwahoddwyd yr ymwelwyr i edrych yn fanylach ar y crefftwaith a’r gwaith trwsio sydd i’w weld ym mhobman o amlygych yr adfeilion. Dywedodd Lucy, “Dwi wedi defnyddio cymysgedd o fetelau gilt cain a defnyddiau llymach fel llechi am fod gen i ddiddordeb yn y newid mewn agweddau at addurno yn yr abaty. Doedd y mynachod Sistersaidd ddim i fod i gael moethau ond fe gawson nhw, ac wrth gwrs, hyd yn oed heddiw rydyn ni’n cael ein tynnu at bethau addurnol.”

Mae arddangosfa a fideo o waith Lucy ar gael i’w gweld erbyn hyn yn Hafdy Glyn-y-groes.