Cestyll Edward I

Castell Caernarfon

Castell Caernarfon

Ym 1276-77 a 1282-83, arweiniodd y Brenin Edward I ddwy ymgyrch filwrol yng Nghymru i drechu tywysogion Cymru a sefydlu rheolaeth y Saeson. Er mwyn gwneud hyn, adeiladwyd neu atgyweiriwyd llawer o gestyll rhwng 1276 a 1295.

Cestyll a adeiladwyd neu a ailadeiladwyd gan Edward I: Aberystwyth, Biwmares, Llanfair-ym-Muallt, Caernarfon, Conwy, Y Fflint, Harlech, Rhuddlan

Cestyll Cymreig a gipiwyd neu a atgyweiriwyd gan Edward I: Castell y Bere, Cricieth, Dolwyddelan a Chaergwrle  

Cestyll yr arglwyddi a godwyd neu a ailgodwyd ar eu tiroedd eu hunain ar gyfer Edward I: Y Waun, Dinbych, Penarlâg, Holt, Rhuthun

Ar ôl pob ymgyrch, adeiladwyd cestyll i gadw’r tir a gipiwyd a theyrnasu dros y gelynion a orchfygwyd. Eryri, ardal fynyddig, oedd cadarnle’r Cymry, ac fe’i hamgylchynwyd gan gylch o gestyll gan y Brenin Edward. Adeiladwyd y rhan fwyaf o’r rhain ar yr arfordir neu wrth afon er mwyn cario cyflenwadau mewn llongau. Defnyddiwyd y syniadau diweddaraf wrth adeiladu cestyll, ac roedd gan y cestyll newydd

  • amddiffynfeydd consentrig.
  • llenfuriau a thyrau enfawr.
  • agennau saethu lluosog.
  • porthdai pwerus.

Cost y gwaith adeiladu hwn oedd tua £30m yn arian heddiw. Adeiladwyd trefi â wal o’u cwmpas ochr yn ochr â’r cestyll yng Nghaernarfon, Conwy, Dinbych a’r Fflint.

Mae’r cestyll a adeiladwyd ar yr adeg hon ymhlith yr enwocaf yng Nghymru. Heddiw mae pedwar o’r rhai mwyaf cyflawn ohonynt – Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech – wedi’u dynodi’n Safle Treftadaeth y Byd. (Gellir cael mwy o wybodaeth am hyn drwy glicio ar y ddolen).

Castell Caernarfon
Dechreuwyd codi Castell Caernarfon ym Mehefin 1283.  Mae i’r castell naw tŵr a dau borthdy. Roedd yn gartref i osgordd a theulu’r brenin, ac roedd yn ganolfan weinyddol i’r ardal.  

Castell Harlech
Dechreuwyd codi Castell Harlech ym 1283 yn ystod yr ail ymgyrch.  Ar anterth y gwaith adeiladu yn Harlech yn haf 1286 roedd bron 950 o ddynion yn cael eu cyflogi – 227 o seiri maen, 115 o chwarelwyr, 30 o ofaint, 22 o seiri coed a 546 o lafurwyr.  Daeth y cerrig eu hunain o chwareli ym Môn, Caernarfon, Egryn a’r safle ei hun.

Castell Conwy
Cymerodd bedair blynedd a hanner i gwblhau Castell Conwy a hynny ar gost o ryw £15,000 (dros £6m heddiw). Mae’r wyth tŵr anferth yn nodweddion amlwg yn yr ardal, gan edrych dros afon Conwy, a ddefnyddiwyd ar gyfer symud milwyr a chyflenwadau mewn llongau. Conwy yw’r dref â’r muriau mwyaf cyflawn yng Nghymru.
 
Castell Biwmares
Hwn oedd yr olaf o gestyll Edward I i’w godi yn y Gogledd.  Dechreuwyd ei adeiladu ym 1295 ac mae’n gastell consentrig gyda ffos ddŵr yn amddiffynfa ychwanegol. Gallai llongau hwylio i lidiart y castell.