Y Rhyfel Cartref

Castell Rhaglan

Castell Rhaglan

Serch hynny, nid oedd pwysigrwydd milwrol cestyll yng Nghymru wedi llwyr dod i ben.  Pan ddechreuodd y Rhyfel Cartref rhwng y Brenin a’r Senedd ym 1642, cafodd nifer o gestyll Cymru eu hatgyfnerthu i fod yn ganolfannau ar gyfer milwyr oedd yn cynorthwyo Siarl I.  Defnyddiwyd arfau newydd - gynnau a magnelau - bellach, a chryfhawyd y waliau i wrthsefyll saethu. Adeiladwyd llwyfannau y tu allan i’r waliau er mwyn rhoi magnelau arnynt.

Wynebodd Conwy, Caernarfon a Harlech i gyd warchaeau gan gefnogwyr y Senedd.  Roedd yr ymladd yn galetach byth yn y de-ddwyrain, lle yr amddiffynnodd iarll Caerwrangon Gastell Rhaglan a bu ei fab Edward yn gyfrifol am amddiffyn y castell yng Nghas-gwent dros y Brenin. Yn ystod haf 1646 roedd castell Rhaglan o dan warchae gan fyddin o 3,500 o Seneddwyr o dan arweiniad Syr Thomas Fairfax, a phan ildiwyd Rhaglan i’r Seneddwyr maes o law, roedd yn orchfygiad difrifol i’r Brenin. Difrodwyd y castell yn fwriadol i atal y Brenhinwyr rhag ei ddefnyddio eto.