Cestyll y drydedd ganrif ar ddeg

Castell Caerffili

Castell Caerffili

Canfuwyd ffyrdd newydd o wneud amddiffynfeydd cestyll yn gryfach llenfuriau.

  • Gwnaed y llenfuriau carreg o amgylch y beili yn fwy trwchus, yn gryfach ac yn uwch.
  • Ychwanegwyd tyrau at y llenfur. Roedd y rhain yn bargodi o’r wal fel bod y milwyr yn gallu gweld yr ardal o’i amgylch yn gliriach a gallent saethu eu bwâu yn fwy cywir.
  • Datblygwyd y porth i ddiogelu’r fynedfa (yn aml y fan wannaf yn y castell).  Yn ei ffurf gynharaf tŵr ydoedd gyda bwa syml yn y llenfur.  Yn nes ymlaen cafodd dau dŵr, ar siâp D fel arfer, eu hadeiladu o boptu’r fynedfa. Fel arfer byddent yn bargodi er mwyn diogelu’r llidiart ac roedd ganddynt agennau saethu.
  • Weithiau ymestynnwyd y tyrau hyn tuag yn ôl i ffurfio tramwyfa drwy’r porthdy. Byddai honno’n cynnwys clwydi, porthcwlisau a thyllau llofruddio.
  • Fel arfer byddai’n rhaid mynd i mewn i’r castell ar draws pont neu bont godi ar draws ffos neu ddyfrffos. Roedd hon yn sefyllfa beryglus i ymosodwyr y gellid eu saethu o’r porthdy.

Cestyll consentrig

Roedd gan y castell consentrig fwy nag un llinell amddiffyn: roedd mur allanol gyda thyrau ychwanegol yn amgylchynu’r cadarnle mewnol.  Roedd y mur mewnol yn uwch, er mwyn i’r saethwyr anelu dros ben y milwyr a fyddai ar y mur allanol.  O bryd i’w gilydd byddai dyfrffosydd yn cael eu hychwanegu er mwyn gwneud y castell yn gryfach fyth.  

Castell Caerffili oedd un o’r cestyll consentrig cyntaf i’w gynllunio’n fwriadol. Fe’i hadeiladwyd gan Gilbert de Clare III, arglwydd Anglo-Normanaidd pwerus, a dechreuwyd ei adeiladu ym 1268.