Mis Hanes Cymreig

  • Prif adeilad Prifysgol Bangor, adeilad rhestredig Gradd I.

    Prif adeilad Prifysgol Bangor, adeilad rhestredig Gradd I.

  • Golwg o'r awyr ar Gastell Cydweli, Sir Gaerfyrddin, a ffilmiwyd gan ddefnyddio'r dechnoleg fideo drôn ddiweddaraf fel rhan o brosiect Cadw 'Cestyll o'r Cymylau'.

    Golwg o'r awyr ar Gastell Cydweli, Sir Gaerfyrddin, a ffilmiwyd gan ddefnyddio'r dechnoleg fideo drôn ddiweddaraf fel rhan o brosiect Cadw 'Cestyll o'r Cymylau'.

  • Coedwig dan y dŵr sydd i'w gweld ar lanw isel ar draeth Borth, Ceredigion (© Nigel Nayling).

    Coedwig dan y dŵr sydd i'w gweld ar lanw isel ar draeth Borth, Ceredigion (© Nigel Nayling).

  • Delwedd gyfrifiadurol o Gaer Rufeinig Segontium yn rhoi syniad i ni o faint y gaer ac yn dangos sut y byddai'n edrych yng Nghaernarfon heddiw.

    Delwedd gyfrifiadurol o Gaer Rufeinig Segontium yn rhoi syniad i ni o faint y gaer ac yn dangos sut y byddai'n edrych yng Nghaernarfon heddiw.

  • Mae'r gatiau deongliadol newydd yng Nghastell Caerffili, a ddyluniwyd gan Rubin Eynon gyda'r gof lleol Glen Adams

    Mae'r gatiau deongliadol newydd yng Nghastell Caerffili

  • Saif Castell Cricieth, Gwynedd, ar Lwybr Arfordir Cymru mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae'n denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd.

    Saif Castell Cricieth, Gwynedd, ar Lwybr Arfordir Cymru mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae'n denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd.

  • Golwg o'r awyr ar Gastell Dolforwyn, Powys, a adeiladwyd gan dywysog olaf Cymru, Llywelyn ap Gruffudd, yn 1273. © Croeso Cymru (Hawlfraint y Goron).

    Golwg o'r awyr ar Gastell Dolforwyn, Powys, a adeiladwyd gan dywysog olaf Cymru, Llywelyn ap Gruffudd, yn 1273. © Croeso Cymru (Hawlfraint y Goron).

  • Un cerflun o garreg o blith nifer yn Ffynnon Santes Gwenffrewi, Sir y Fflint; mae'r cerfiad hwn yn disgrifio dyn yn cario pererin nad yw'n gallu cerdded i'r ffynnon. © Ffotograffiaeth Mick Sharp.

    Un cerflun o garreg o blith nifer yn Ffynnon Santes Gwenffrewi, Sir y Fflint; mae'r cerfiad hwn yn disgrifio dyn yn cario pererin nad yw'n gallu cerdded i'r ffynnon. © Ffotograffiaeth Mick Sharp.

  • Datgelu paentiad wal coll o 'San Siôr a'r Ddraig' yn Eglwys Sant Cadog Ym Mro Morgannwg (© Jane Rutherfoord)

    Datgelu paentiad wal coll o 'San Siôr a'r Ddraig' yn Eglwys Sant Cadog Ym Mro Morgannwg (© Jane Rutherfoord)

  • Roedd Tŷ-mawr Wybrnant, Conwy, cartref yr Esgob William Morgan, yn dyddio'n ôl i 1564/65 gan ddefnyddio'r technegau gwyddonol diweddaraf. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

    Roedd Tŷ-mawr Wybrnant, Conwy, cartref yr Esgob William Morgan, yn dyddio'n ôl i 1564/65 gan ddefnyddio'r technegau gwyddonol diweddaraf. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

  • Golwg o'r awyr ar Fynydd Parys, Ynys Môn, sy'n dangos gweddillion y mwynglawdd copr mwyaf yn y byd ar un adeg. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

    Golwg o'r awyr ar Fynydd Parys, Ynys Môn, sy'n dangos gweddillion y mwynglawdd copr mwyaf yn y byd ar un adeg. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

  • Golygfa o Gei Llechi ar lan y dŵr yng Nghaernarfon, gyda’r castell yn nodwedd amlwg wrth aber afon Seiont, cyn dechrau’r gwaith adfywio yn yr ardal. © Croeso Cymru (Hawlfraint y Goron)

    Golygfa o Gei Llechi ar lan y dŵr yng Nghaernarfon, gyda’r castell yn nodwedd amlwg wrth aber afon Seiont, cyn dechrau’r gwaith adfywio yn yr ardal. © Croeso Cymru (Hawlfraint y Goron)

  • Cafodd Capel Carmel ym Mhennal, Gwynedd, ei adnewyddu diolch i gyllid gan y Loteri Fawr a grant cadwraeth. © Hawlfraint y Goron Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

    Cafodd Capel Carmel ym Mhennal, Gwynedd, ei adnewyddu diolch i gyllid gan y Loteri Fawr a grant cadwraeth. © Hawlfraint y Goron Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

  • Chwarel y Penrhyn gan Henry Hawkins, 1832. Mae’r llun yn cael ei arddangos yng Nghastell Penrhyn, sydd o dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac ar agor i’r cyhoedd. © Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

    Chwarel y Penrhyn gan Henry Hawkins, 1832. Mae’r llun yn cael ei arddangos yng Nghastell Penrhyn, sydd o dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac ar agor i’r cyhoedd. © Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

  • Y Royal Charter ar ei hynt yn 1856, dair blynedd cyn iddi gael ei dryllio oddi ar arfordir Ynys Môn (WSH-3-49, trwy garedigrwydd Archifau Ynys Môn).

    Y Royal Charter ar ei hynt yn 1856, dair blynedd cyn iddi gael ei dryllio oddi ar arfordir Ynys Môn (WSH-3-49, trwy garedigrwydd Archifau Ynys Môn).

  • Gweithwyr yn cario trawst anferth o dderw a gafodd ei fewnforio o America, i Gastell Caernarfon yn 1912. Defnyddiwyd y trawst i gynnal lloriau pren newydd, ac mae’n bosib gweld y rhain yn y castell hyd heddiw.

    Gweithwyr yn cario trawst anferth o dderw a gafodd ei fewnforio o America, i Gastell Caernarfon yn 1912. Defnyddiwyd y trawst i gynnal lloriau pren newydd, ac mae’n bosib gweld y rhain yn y castell hyd heddiw.

  • Wyneb gogleddol Tŷ a Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg. © Lluniau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Andrew Butler

    Wyneb gogleddol Tŷ a Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg. © Lluniau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Andrew Butler

  • ‘Edrych dros ysgwydd Dylan’ – gwaith celf gan Ysgol Talacharn fel rhan o brosiect addysg Cadw.

    ‘Edrych dros ysgwydd Dylan’ – gwaith celf gan Ysgol Talacharn fel rhan o brosiect addysg Cadw.

  • Cerflun milwr lluddedig ar gofgolofn ryfel Y Fenni. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

    Cerflun milwr lluddedig ar gofgolofn ryfel Y Fenni. © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

  • Glofa Cambrian, Bro Clydach, o’r de ddwyrain yn y 1960. © Amgueddfa Genedlaethol Cymru

    Glofa Cambrian, Bro Clydach, o’r de ddwyrain yn y 1960. © Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Bob blwyddyn, mae arbenigwyr Cadw a’u partneriaid, gan gynnwys amgueddfeydd, ymddiriedolaethau archeolegol a thîm Cronfa Dreftadaeth y Loteri, yn dod at ei gilydd i ddod â straeon am dreftadaeth gyfoethog ac amrywiol Cymru yn fyw fel rhan o fenter Mis Hanes Cymru – cyfres o erthyglau a lluniau cwbl newydd sydd i’w gweld am fis cyfan yn y Western Mail ac ar WalesOnline.

Thema gychwynnol Mis Hanes Cymru 2015, sy’n dechrau ar 3 Hydref, yw ‘Beth mae’r Cymry erioed wedi ei wneud i ni?’

Meddai Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: ‘Mae hanes bywiog Cymru’n gyforiog o gymunedau ac unigolion sydd wedi dylanwadu ar bob agwedd ar fywyd, o fyd diwydiant a gwleidyddiaeth i lenyddiaeth a’r celfyddydau. Maen nhw wedi ysbrydoli cenedlaethau ac wedi gadael cryn argraff ar y byd.

‘Dyna pam mae hi mor bwysig i ddysgu am ein gorffennol. Dyma hanes ein gwlad a’i phobl, a hanes sut, trwy gamau unigol, gweithiau a darganfyddiadau, y crëwyd y Gymru fodern ffyniannus sydd ohoni heddiw.’

Yma, fe welwch chi ddolenni cyswllt i lond llyfrgell o draethodau Mis Hanes Cymru Cadw 2015 sy’n ymddangos ar WalesOnline bob dydd. Ewch i wefan WalesOnline i weld traethodau wedi’u hysgrifennu gan ein partneriaid.

Nodwch fod yr erthyglau ond ar gael yn Saesneg.


Beth mae'r Cymry erioed wedi wneud i ni? Llawer fawr...
Mae Cymru wedi cael cryn ddylanwad ar y byd, meddai Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

TE Lawrence, ganed yng Nghymru, ond 'y Sais gorau erioed'
Mae Erin Lloyd Jones, o Cadw, yn cnoi cil ar fywyd cynnar TE Lawrence, sy’n fwyaf adnabyddus fel  ‘Lawrence of Arabia’

Roedd Gerallt Gymro  yn eiriolwr am yr hyn yr oedd yn credu oedd hawliau hynafol ei eglwys
Mae Bill Zajac, o Cadw, yn bwrw golwg yn ôl ar ymgyrch fawr Gerallt Gymro dros Dyddewi, a fyddai’n mynd ag ef i Rufain tair gwaith ac yn meddiannu’i fywyd am y pedair blynedd nesaf

Edward George 'Taffy' Bowen
Mae Jon Berry, o Cadw, yn disgrifio camp dechnegol aruthrol un o wyddonwyr mwyaf Cymru adeg y rhyfel, ac yn tynnu sylw at ei flaengaredd gwyddonol

Syr Clough Williams-Ellis - etifeddiaeth 'pensaer' Portmeirion
Mae Judith Alfrey, o Cadw, yn ystyried gwaddol Syr Clough Williams-Ellis ac yn dangos sut mae wedi ysbrydoli eraill i edrych o’r newydd ar yr amgylchedd adeiledig

Harri Tudur - bachgen o Benfro a ddaeth yn frenin
Cipolwg ar fywyd cynnar y brenin mawr, Harri VII – o ddyddiau’r bachgen ifanc, Harri Tudur, a anwyd ac a fagwyd yng Nghymru

Hugh Owen Thomas
Teyrnged gan Polly Groom, Cadw, i’r llawfeddyg orthopedeg o Gymro, Hugh Owen Thomas (1834-91) a’i ddyfais, y Thomas splint - a ddefnyddiwyd yn helaeth ac a achubodd filoedd o fywydau yn ystod ac ar ôl y Rhyfel Mawr