Cadw yn cyhoeddi eglwys ‘fodern, heb fod yn hyll o fodern’ fel ei 30,000fed adeilad rhestredig yng Nghymru

Dydd Llun 23 Ebrill 2018

  • Bedd Gelerts Beddgelert

    Bedd Gelert Beddgelert 

  • Eglwys Sant Marc — Gabalfa

    Eglwys Sant Marc — Gabalfa

  • Cwt pren storio gwymon — Bae Freshwater West

    Cwt pren storio gwymon — Bae Freshwater West

Mae eglwys plwyf yng Nghaerdydd, a ddisgrifiwyd gan ei ficer yn ei gwasanaeth cysegrwyd yn 1968, fel eglwys ‘fodern, heb fod yn hyll o fodern’ wedi cael ei henwi fel y 30,000fed adeilad i gael ei restru gan Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Cafodd Eglwys Sant Marc, Gabalfa ei rhestru bron 34 mlynedd ar ôl i Cadw restru ei adeilad cyntaf un – Rhos Boeth ar Ynys Môn, sydd heddiw’n cael ei redeg fel sefydliad gwely a brecwast llwyddiannus.

Mewn adroddiad gan Cadw caiff yr eglwys, a adeiladwyd yn 1967, ei disgrifio fel ‘symbol gwych’ o’r deunyddiau a’r dulliau adeiladu arloesol a ddefnyddiwyd yn union ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Mae ei hadeiladwaith amlochrog wedi’i seilio o amgylch fframiau porthol sydd wedi’u gwneud o bren laminedig o’r radd flaenaf, a’u gludo ynghyd gyda’r glud resorsinol-formaldehyd Aerodux a ddefnyddid ar ôl y rhyfel. Cyflwynwyd y glud arloesol i ddechrau yn 1943, ac fe’i defnyddiwyd yn bennaf ar gyfer gweithgynhyrchu awyrennau a chychod pren, ac yn y blynyddoedd yn dilyn y rhyfel daeth Prydain yn arweinydd byd mewn defnyddio’r sylwedd gyda phren laminedig.

Mae’r eglwys hefyd yn ein hatgoffa o gynlluniau trafnidiaeth uchelgeisiol Caerdydd bryd hynny, a weithredwyd gan lywodraeth McMillan, i leddfu’r traffig ym maestrefi gogledd y ddinas a chreu gweledigaeth newydd o ddinas fwy symudol.

Cafodd yr adeilad gwreiddiol, a oedd yn dyddio’n ôl i 1876, ei ddymchwel i wneud lle i Gyfnewidfa enwog Gabalfa. Yn ôl yr adroddiadau yn y wasg ar y pryd, byddai’r gyfnewidfa yn cario Ffordd y Gogledd ar drosffordd hyfryd.

Ni fwriedir i’r statws rhestredig atal gwaith atgyweirio nac ad-drefnu yn yr eglwys Anglicanaidd, y nod yn hytrach yw gwarchod a diogelu’r diddordeb pensaernïol a hanesyddol sydd ynghlwm wrth yr adeilad, ac sy’n gysylltiedig â Chaerdydd a Phrydain fedrus yn dilyn y rhyfel.

Meddai’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae Eglwys Sant Marc yn adrodd hanes ail-adeiladu yn y cyfnod ar ôl y rhyfel.  Mae’n stori am genhedlaeth wnaeth fyw drwy’r rhyfel ac a aeth ati nid yn unig i ddefnyddio’r sgiliau a’r dechnoleg a ddatblygwyd i godi adeilad fel eglwys Sant Marc, ond a aeth ati hefyd i dorri’n rhydd oddi wrth y gorffennol ac ail-adeiladu mewn ffordd arloesol, newydd. 

“Mae Eglwys Sant Marc mewn sawl ffordd yn symbol o’r gobaith a’r gred a deimlwyd yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel, ac mae Cadw yn falch iawn o gyhoeddi statws yr adeilad hanesyddol fel ei 30,000fed adeilad rhestredig.”

Mae cylch gorchwyl Cadw i ddiogelu yn ymestyn i henebion, ardaloedd cadwraeth, parciau a gerddi hanesyddol, tirluniau hanesyddol ac adfeilion hanesyddol.

Dyma restr o’r rhai mwy anghyffredin:

Talp o lo rhestredig Gradd II, Parc Bedwellte, Tredegar – yn ôl y sôn, hwn yw’r darn mwyaf o lo i gael ei dorri erioed, fe’i rhestrwyd yn 1992 fel cofeb unigryw i’r diwydiant glo yn ne Cymru ac i fedrau’r glowyr.

Hen flwch ffôn glas yr heddlu, sy’n hynod brin, Ffordd Cas-gwent, Casnewydd — ar lafar caiff yr adeiladwaith hwn sy’n dyddio’n ôl i’r 1930au ei alw’n Tardis, ac arferai’r heddlu ddefnyddio’r blwch ffôn ar gyfer swyddogion ac i gysylltu’n uniongyrchol â’r gorsafoedd heddlu.

Bedd Gelert, Beddgelert, Gwynedd – adeiladwyd y gofeb garreg hon yn 1802 gan David Prichard, a oedd yn rheolwr mewn gwesty lleol, ac fe’i rhestrwyd yn 1998 am ei diddordeb arbennig yn hanes Twristiaeth Cymru. Mae’n chwedlonol am nodi man gorffwys 'Gelert', ci ffyddlon Llywelyn Fawr, tywysog Cymru.

Cwt pren storio gwymon, Bae Freshwater West, Sir Benfro — defnyddid y cwt bychan hwn sy’n dyddio’n ôl i 1906 i storio a sychu gwymon i gynhyrchu bara lawr, ac mae’n ein hatgoffa o’r diwydiant cartref rheolaidd, a gyflogai fenywod lleol o bentref Angle. Cyfeirir at fara lawr yn aml fel cafiâr Cymreig oherwydd ei edrychiad du, sgleiniog, caiff ei ystyried yn un o’r danteithion traddodiadol ac mae’n dal ar gael yn y siopau heddiw.

Nyth yr Eryr, Dyffryn Gwy, Cas-gwent — saif y wylfa fechan ond hynod hon sydd ar ddwy lefel ymhell uwchlaw Afon Gwy, ac fe’i gwnaed o gerrig rwbel ar ymyl ochr serth Wyndcliffe. Credir bod y wylfa arbennig hon yn dyddio’n ôl cyn 1928, ac mae alcof bychan bwaog wedi’i dorri i mewn i’r garreg; rhaid bod sedd wedi bod yma unwaith i gynnig yr olygfa berffaith o’r afon eang a Phenrhyn Laucaut.

Pont Rufeinig ddirgel, Bro Machno, Conwy — er yr amcangyfrifir bod y bont wedi’i hadeiladu yn yr 17eg ganrif, yn ôl y sôn mae i’r adeiladwaith hynod darddiad Rhufeinig. Mae’n debygol yr arferid defnyddio’r bont hon, sy’n croesi’r darn cul tebyg i geunant o afon Machno, i gludo meirch pwn ac fe’i disgrifiwyd fel “pont hynafol” mewn adroddiad gan y Sesiwn Gyffredinol yn 1662.

Toiledau cyhoeddus rhestredig Gradd II, y Pil, Casnewydd — adeiladwyd yr hen ystafell ymolchi gyhoeddus hon o frics coch gyda manylion terracotta a phanelau wedi'u rendro, ac mae arni’r geiriau “gentlemen”; mae’n esiampl wych o doiledau cyhoeddus sydd wedi goroesi o’r oes Edwardaidd gyda chymeriad pensaernïol cryf.