Y Stranglers yn dychwelyd i Gymru am berfformiad arbennig yng Nghastell Caerffili

Dydd Mawrth 02 Hydref 2018

Mi fydd hyrwyddwr cerddoriaeth annibynnol fwyaf Cymru a’r terfynwr yng Ngwobrau Cerddoriaeth Byw Prydain 2018 fel yr Hyrwyddwr Rhanbarthol Gorau, Orchard Entertainment yn dychwelyd i’r lleoliad hanesyddol trawiadol hwn, gyda lein yp gwych o’r Stranglers a Ruts DC

Y STRANGLERS YN DYCHWELYD I GYMRU AM BERFFORMIAD ARBENNIG YNG NGHASTELL CAERFFILI

Y STRANGLERS YN DYCHWELYD I GYMRU AM BERFFORMIAD ARBENNIG YNG NGHASTELL CAERFFILI

Fe ddechreuai haf o gerddoriaeth byw gan y Stranglers yng Nghastell Caerffili yn Ne Cymru pan fyddant yn chwarae yng Nghastell mwyaf Cymru ar ddydd Gwener y 5 Orffennaf 2019. Daw’r gefnogaeth gan y pync rocwyr Ruts DC. Bydd y tocynnau ar werth cyffredinol ar ddydd Mercher 3 Hydref am 10yb trwy Ticketmaster.co.uk, Gigantic.com, Seetickets.com, Coed Duon Sefydliad y Glowyr neu drwy alw 0844 844 0444.

Yn ystod 2018 rhyfeddol o brysur yn teithio Hemisffer y De, Ewrop a’r DU, gan gynnwys perfformiad anhygoel a werthodd allan yn Tramshed, Caerdydd, mae’r Stranglers hefyd wedi bod yn brysur yn ysgrifennu ac ymarfer deunydd newydd. Gall cynulleidfaoedd yn y castell enwog disgwyl rhai o’r toriadau newydd yma, ochr yn ochr â’r ffefrynnau clasurol a chaneuon llai enwog wedi’i dynnu o’u catalog anghyffredin a helaeth.

Fe’i ffurfiwyd yn gyntaf ym 1974, roedd agwedd y band wedi’i groesawu gan y symudiad pync yn y 70au hwyr, efo’i tri albwm cyntaf — Rattus Norvegicus, No More Heroes a Black And White — wedi’i rhyddhau, yn rhyfeddol, o fewn 13 mis o’i gilydd wrth sgorio senglau ysgubol megis Peaches, No More Heroes a Walk On By. Roedd llwyddiant pellach i ddilyn gyda Always The Sun, Strange Little Girl a’r sengl fywiog Golden Brown, ymysg llawer o ganeuon eraill, gan haeddu 24 sengl gorau o 40 ac 18 albwm gorau o 40.

Maent yn feistri o'i sain wreiddiol sy'n cyfuno cysylltiad melodig gwych gydag ymosodiad tywyll ac oer diymdrech. Mae'r Stranglers bellach yn cael eu cydnabod fel un o'r bandiau mwyaf credadwy a dylanwadol i ddod i'r amlwg o'r cyfnod pync.

‘Dyw’r Stranglers erioed wedi swnio mor fywiog’ — 4/5 Mojo

‘Maen nhw erioed wedi swnio mor fwriadol. Erioed wedi swnio mor dywyll, erioed wedi swnio mor athronyddol, melodig, pigog a fuddugoliaethus’ — Vive Le Rock 9/10

‘Dyma’r band pync Prydeinig sydd wedi cario ymlaen am yr hiraf ac sydd dal i fod yn fain ac yn galed’ - Mail on Sunday 4 seren’

Y gwesteion arbennig yw Ruts DC, band pync roc sy’n cael ei dylanwadu gan reggae, ffurfiwyd yn 1977 ar frig y chwyldro Pync. Fe wnaethon nhw ryddhau eu sengl gyntaf In A Rut yn gynnar yn 1979 ar y label People Unite, a chafodd ei gymeradwyo gan yr arwr John Peel. O hynny ymlaen a dros y blynyddoedd, cafodd y record ei ystyried yn gywir i fod yn anthem Pync.

Roedd mwy i’w ddilyn, gyda’r senglau Babylon’s Burning, Something That I Said, Jah War (pob un o’r albwm cyntaf The Crack) a Staring at the Rude Boys, West One (y ddau wedi’u hymddangos yn yr albwm Grin and Bear It).

Y Stranglers Gwesteion Arbennig Ruts DC — Dydd Gwener 5 Orffennaf 2019 — Castell Caerffili 

Tocynnau ar gael trwy Ticketmaster.co.uk | 0844 844 0444 | Gigantic.com| Seetickets.com | Coed Duon Sefydliad y Glowyr

Dydd Merched 3 Hydref 2018

*Ar gyfer mynediad gwylio hygyrch plîs galwch 0800 988 4440

Gwefan: http://www.thestranglers.co.uk