Gorchest hynod — Safle Treftadaeth y Byd yn cael hwb o £850,000

Dydd Iau 11 Hydref 2018

Castell Conwy

Castell Conwy Gwaith Cadwraeth 2018

Eleni, mae Cadw wedi cychwyn ar un o’i brosiectau cadwraeth mwyaf cymhleth erioed, gyda gwaith cadwraethol helaeth yn cael ei gwneud i waith carreg Castell Conwy a Muriau'r Dref, Castell Biwmares a Chastell Harlech er mwyn adfer gwaith James o St George — y pensaer maen y tu ôl i gynllun gwreiddiol y mannau hyn.

Dechreuodd y gwaith ar y tri chastell canoloesol ym mis Ionawr 2018 — sydd gyda Chastell Caernarfon a Muriau'r Dref yn ffurfio un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae 60 o seiri maen medrus o’r cwmni Sally Strachey Historic Conservation wedi bod yn gweithio’n ddiflino i ddiogelu’r henebion ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

A heddiw (11 Hydref 2018), mae Cadw wedi datgelu bod £850,000 wedi cael ei fuddsoddi yn y prosiect uchelgeisiol hwn, sydd i fod i gael ei gwblhau ym mis Tachwedd eleni.
Cafodd yr holl weithgarwch a oedd wedi’i gynllunio yn Harlech a Biwmares ei gwblhau ym mis Awst. Felly, cwblhau’r gwaith yng Nghastell Conwy fydd yn nodi diwedd y rhaglen 11 mis.

Yn sail i’r gofynion ar gyfer y prosiect cadwraeth cymhleth oedd cyfres o archwiliadau gan arbenigwyr, a oedd yn cynnwys defnyddio camerâu GoPro a dronau i ddadansoddi ardaloedd cudd, allan-o-gyrraedd y tri safle hanesyddol.
Mae’r gwaith penodol sydd eisoes wedi’i gyflawni yng Nghastell Conwy wedi cynnwys cael gwared â llystyfiant lefel-uchel, mwsogl arwyneb a chwyn o furiau’r gaer ganoloesol, a chafodd y gwaith ei hwyluso gan weithwyr sy’n defnyddio rhaffau i gael mynediad a thros 200 tunnell o sgaffaldwaith. Hefyd, mae gwaith cerrig simsan wedi cael ei ail-bwytho ac mae uniadau agored ar draws y strwythurau anferth wedi cael eu hailbwyntio.
Bydd y gwaith sydd heb ei gwblhau yn y Castell – sy’n cynnwys gwaith maen i’r Barbican Dwyreiniol – yn cael ei wneud yn ystod y mis nesaf. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys gwaith ar gerrig tŵr y gogledd-orllewin a thŵr y gegin, a hefyd y rhagfur dwyreiniol.
Yn y cyfamser, bydd Muriau’r Dref yng Nghonwy hefyd yn elwa o’r prosiect, gyda gwaith cadwraethol yn cael ei wneud ar Dŵr Porth y Felin, sy’n cynnwys atgyweirio’r grisiau presennol a ddefnyddir gan ymwelwyr i fynd at rodfa Muriau'r Dref.
Dywedodd Nick Sharland, Rheolwr y Prosiect o Sally Strachey Historic Conservation, “Mae wedi bod yn fraint i mi ac i dîm Sally Strachey Historic Conservation ar y safle i gael y cyfle i weithio ar y strwythurau hanesyddol, hynod hyn.
“Mae wedi bod yn brosiect cyffrous iawn i fod yn rhan ohono ac rydyn ni’n hapus eithriadol gyda’r canlyniadau”.
Dywedodd Pennaeth Cadwraeth Cadw, Chris Wilson, “Mae’r gwaith cadwraeth sydd wedi’i wneud eleni yng Nghonwy, Harlech a Biwmares o safon uchel iawn ac mae Cadw yn awyddus i weld y safon uchel yma yn parhau yn ei henebion hanesyddol ar draws y wlad.
“Er enghraifft, yng Nghonwy, roeddem am i ymddangosiad y Castell fod fel yr oedd yn 1283. Felly, rydym wedi ail-bwyntio’r uniadau agored fel eu bod yn wastad ag wyneb y gwaith cerrig.  Mae hyn wedi goleuo wynebau allanol y tyrau, sydd yn sicr yn olygfa drawiadol o unrhyw gyfeiriad”.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog Ddiwylliant, Thwristiaeth a Chwaraeon: “Mae Cestyll Biwmares a Harlech, ynghyd â chestyll a muriau trefi Conwy a Chaernarfon, yn un o unig dri o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru. Felly mae’n hanfodol ein bod yn parhau i’w diogelu a’u cadw er mwyn sicrhau lle gogledd Cymru ar lwyfan byd-eang.
“Cafodd y safleoedd eu dynodi ar y cyd yn 1986 i gydnabod eu harddull bensaernïol unigryw a gorchestion digyffelyb peirianneg ganoloesol — a bydd prosiect cadwraeth eleni yn tynnu sylw cynulleidfa o ymwelwyr o Gymru a thu hwnt at y nodweddion gwych hyn o’r newydd.
“Drwy wneud hyn, gallwn obeithio diogelu'r safleoedd hyn er mwyn i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau ac, yn ei dro, cael effaith gadarnhaol ar economi ehangach Cymru.”