The Zutons yng Nghastell Caerffili 

Dydd Gwener 15 Chwefror 2019

The Zutons yng Nghastell Caerffili

The Zutons yng Nghastell Caerffili

The Zutons yw’r band diweddaraf i gyhoeddi y byddan nhw’n chwarae yng Nghastell Caerffili. Byddan nhw’n perfformio yng nghastell mwyaf Cymru ddydd Gwener 12 Gorffennaf 2019. Bydd y band yn perfformio eu halbwm arloesol ‘Who Killed The Zutons’ i gyd-fynd â’u 15fed pen-blwydd. 

Bydd y tocynnau ar werth ddydd Gwener 15 Chwefror am 10am ar Ticketmaster.co.uk, yn Sefydliad y Glöwyr, Coed Duon neu drwy ffonio 0844 844 0444.

Cafodd yr albwm, oedd yn cynnwys y caneuon poblogaidd ‘Pressure Point’, ‘Remember Me’, ‘Confusion’ a ‘You Will You Won’t’, ei ryddhau yn 2004 a chael llawer o glod, gyda BBC Music yn ei alw’n “ddechreuad uchelgeisiol ond medrus” ac NME yn ei alw’n “gychwyn da sy’n awgrymu dyfodol gwell.” Cafodd ei enwebu am Wobr Mercury, a gwerthwyd dros 600,000 copi (Platinwm Dwbl) yn y DU yn unig.
Rhyddhaodd y band ddau albwm arall, ‘Tired of Hanging Around’ (oedd yn cynnwys eu cân ‘Valerie’, sydd bellach yn un o ganeuon mwyaf poblogaidd y mileniwm) a’u halbwm olaf ‘You Can Do Anything’ yn 2008.

Ar ôl 8 mlynedd ar wahân, ail-ffurfiodd y grŵp am un sioe yn 2016 i godi arian er cof am eu ffrind agos, Kristian Ealey, a sbardunodd hynny sïon am sioeau newydd a cherddoriaeth newydd bosibl.

Dywedodd prif leisydd The Zutons, Dave McCabe;
“Rydyn ni wedi bod yn byw ein bywydau ein hunain ers sbel, a dim ond gydag amser ac ychydig o bellter mae rhywun yn sylweddoli pa mor arbennig yw rhywbeth. Mae’n hawdd cymryd pethau’n ganiataol pan mae rhywun yn iau, ond nawr mae’n anhygoel meddwl bod lle i’r caneuon hynny’n dal i fodoli, a bod pobl yn mynd i ddod i wrando arnon ni’n eu chwarae nhw eto”.

Mae’r digwyddiad yn cael ei hyrwyddo gan y cwmni sydd wedi ennill gwobr Hyrwyddwr Rhanbarthol Digwyddiadau Byw y DU dair gwaith, Orchard Live (Orchard Entertainment gynt), sydd eisoes wedi cyhoeddi y bydd The Stranglers a Ruts DC hefyd yn perfformio yng Nghastell Caerffili wythnos ynghynt ar 5 Gorffennaf ac y bydd y rocwyr o America, Black Stone Cherry  yn perfformio’r diwrnod wedyn, ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2019.

www.orchardlive.com

Cyngherddau Castell Caerffili
5 Gorffennaf — The Stranglers a The Ruts DC (Tocynnau)
12 Gorffennaf — The Zutons a Gwesteion Arbennig (Tocynnau)
13 Gorffennaf — Black Stone Cherry a Gwesteion Arbennig (WEDI GWERTHU)