Teithiwch yn ôl mewn amser gyda Cadw
Eitemau yn yr adran hon
Ydych chi erioed wedi breuddwydio am gael blasu bywyd mewn oes arall? Wel, dyma eich cyfle ...
Yn ein safleoedd ffantastig gallwch chi gamu yn ôl mewn amser i dreulio eich diwrnod fel Rhufeiniwr llywodraethol, dilyn ôl traed tywysoges ryfelgar, neu baratoi am frwydr ar dir castell mawreddog.
Yma, gallwch ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch chi i gychwyn ar eich antur yn ôl mewn amser. Oherwydd dydy dychymyg ddim yn gorffen gyda phlentyndod!

Anturiaethau dau ddigrifwr yn teithio drwy amser
Ymunwch â'r digrifwyr Chris Corcoran ac Elis James wrth iddynt geisio dysgu mwy am hanes Cymru drwy ymweld â rhai o safleoedd ysbrydoledig Cadw.
Gwyliwch Chris ac Elis yn teithio'n ôl mewn amser
Ailadeiladu'r gorffennol — fideos CGI
Cymerwch olwg o’r awyr ar Gaer Rufeinig drawiadol Segontium — a gweld tŵr cam eiconig Castell Caerffili yn codi’n ôl i’w le.
Cyfle i weld hanes yn dod yn fyw
Teithio yn ôl mewn Amser i Blant
Nid dim ond yr oedolion sy’n cael teithio yn ôl mewn amser! Edrychwch ar ein hadran i’r Plant i lwytho gweithgareddau teithio yn ôl mewn amser i lawr am ddim, gan gynnwys cwisiau, taflenni lliwio a straeon!
Dewch i ddarganfod y gemau, y cwisiau a'r lawrlwythiadau yn ein hadran i blant
Gêm y Dronau
Mae cyfres newydd o fideos dan y teitl 'Cestyll o’r Cymylau' yn cynnig persbectif unigryw o’r awyr o rai o henebion mwyaf eiconig Cymru.
Gwyliwch y fideos wrth i ni eu rhyddhau yma