Straeon Dreigiau a Gemau

Hanes Dreigiau Cadw

Ydych chi'n ffan o deulu Dreigiau Cadw ond ddim yn byw ger Castell Caerffili? Wel, rydych chi mewn lwc. 

Mae yna 70 o Ddreigiau Bach rhithiol yn cuddio mewn 7 castell ledled Cymru - cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar sut y gallwch ddod o hyd iddyn nhw.

Ac yn well fyth, mae yna stori antur chwe phennod am y bwystfilod, sydd ar gael yma, fel y gallwch ddod â'r ymlusgiaid hoffus i'ch cartref.