Ardaloedd cadwraeth, rhestrau lleol a chymeriad hanesyddol

Canllawiau ar arwyddocâd asedau hanesyddol sy'n llywio hunaniaeth ein cymunedau a sut i'w rheoli

Gorsaf tren Ynys y Barri

Gorsaf tren Ynys y Barri

Ein teitlau diweddaraf 

Mae Asesiadau o’r Effaith ar Dreftadaeth yng Nghymru yn pennu yr egwyddorion cyffredinol i'w hystyried wrth gynllunio newidiadau i asedau hanesyddol a gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig ac ardal gadwraeth.

Mae'r canllaw arfer gorau hwn ar gyfer perchenogion a phreswylwyr asedau hanesyddol a'u hasiantwyr yn bennaf. Bydd yn helpu iddynt ddeall pam, pryd a sut i
ddefnyddio proses yr asesiad o'r effaith ar dreftadaeth ac i baratoi datganiadau o'r effaith ar dreftadaeth. (Mai 2017)

Mae Rheoli Ardaloedd Cadwraeth yng Nghymru yn pennu y cyd-destun polisi ar gyfer dynodi a rheoli ardaloedd cadwraeth a dyletswyddau awdurdodau cynllunio
lleol. Mae hefyd yn nodi prif agweddau arfer gorau am eu dynodiad a'u gwerthusiad, gan gynnwys cyfraniad rhanddeiliaid a datblygu polisïau lleol ar gyfer
rheoli positif a gwelliant fel bod eu cymeriad a'u hymddangosiad yn cael eu cadw a'u gwella.

Mae'r canllaw arfer gorau hwn wedi'i anelu'n bennaf at awdurdodau cynllunio lleol i sicrhau dull cyson o ddynodi ardaloedd cadwraeth, arfarnu a rheoli ledled Cymru. (Mai 2017)

Mae Rheoli Nodweddion Hanesyddol yng Nghymru yn egluro pam ei fod yn bwysig i gydnabod nodweddion hanesyddol a'i ddefnyddio fel sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwaith cadwraeth, adfywio a chynllunio. Mae'n dangos sut y gall bolisïau a rhaglenni i reoli newid gael ysbrydoliaeth o'r gorffennol i helpu i greu a chynnal
lleoliadau unigryw at y dyfodol. Mae Rheoli Nodwedidon Hanesyddol yng Nghymru, yn ogystal â Rheoli Rhestrau o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig
yng Nghymru, yn canolbwyntio ar yr agweddau hynny o dreftadaeth leol sydd â gwerth sylweddol i gymunedau lleol, gan gynnwys y rhai hynny sydd heb eu dynodi
oherwydd eu diddordeb neu eu pwysigrwydd cenedlaethol arbennig.

Mae canllawiau arfer gorau wed'i anelu'n bennaf at gadwraeth o fewn awdurdodau lleol, adrannau cynllunio, tai, adfywio a datblygu, yn ogystal ag adrannau Llywodraeth Cymru. Bydd hefyd o ddiddordeb i gymunedau lleol a sefydliadau'r trydydd sector, yn ogystal â pherchnogion, datblygwyr ac asiantwyr, sydd â swyddogaeth hollbwysig wrth adnabod, hyrwyddo a gofalu am nodweddion hanesyddol lleol. (Mai 2017)

Mae Rheoli Rhestrau o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig yng Nghymru yn pennu yr egwyddorion cyffredinol a'r arferion da ar gyfer paratoi a rheoli rhestrau o asedau hanesyddol lleol — gan gynnwys meini prawf, enwebu, ymgynghori, dilysu, apeliadau a monitro — ac mae'n rhoi canllawiau ar gyfer eu
defnyddio yn y system gynllunio.

Mae'r canllawiau hyn wedi eu hanelu'n bennaf at awdurdodau cynllunio lleol, ond hefyd sefydliadau'r trydydd sector a pherchnogion asedau hanesyddol, i annog
pob sector i gydweithio i ddiogelu a gwella asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig. (Mai 2017)

Mae Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru yn egluro beth yw lleoliad, a sut y mae'n cyfrannu at bwysigrwydd ased hanesyddol a pham bod hyn yn bwysig. Mae'n rhoi amlinelliad o'r egwyddorion sy'n cael eu defnyddio i asesu effaith bosibl datblygiad neu gynigion i reoli tir o fewn lleoliadau Safleoedd Treftadaeth y Byd, henebion (rhestredig a heb eu rhestru), adeiladau rhestredig, parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig ac ardaloedd cadwraeth.

Mae'r canllaw arfer gorau hwn wedi'i anelu at ddatblygwyr, perchnogion ac asiantwyr, a ddylai ei ddefnyddio i lywio cynlluniau rheoli a chynigion ar gyfer
newid a allai gael effaith ar bwysigrwydd ased hanesyddol a'i leoliad. (Mai 2017)