Cerddoriaeth a chelf ysblennydd yn dod â Chastell Caernarfon yn fyw i ddathlu’r Gemau Olympaidd
Dydd Mercher 27 Mehefin 2012
Mae Crochan a Ffwrnais, a lansiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru fel cyfres o ddigwyddiadau proffil uchel i groesawu’r Gemau Olympaidd i Gymru’n dod i Gaernarfon. Bydd Castell Caernarfon yn dod yn fyw Ddydd Sul 1sf Gorffennaf o 2.30pm–4.30pm wrth i bobl ifanc Caernarfon roi cychwyn ar fis o ddathliadau artistig o’r enw Cipio’r Castell, gan arddangos yr hyn mae’r gaer rymus yn ei olygu iddyn nhw.

Yn dilyn gorymdaith ysblennydd o’r Maes i’r castell, gall ymwelwyr fwynhau rapiau wedi eu comisiynu’n arbennig, cerddoriaeth gerddorfaol a chorawl, theatr fyw a mewnosodiadau celf arloesol i gyd wedi eu hysbrydoli gan ddiwylliant a threftadaeth y castell a’r ardal leol i gyd yn cael eu cynnal oddi fewn i waliau’r castell.
Am fis wedyn bydd ymwelwyr i’r castell yn cael eu syfrdanu gan weithiau celf unigryw wedi eu gosod o gwmpas y safle. Mae ieuenctid Caernarfon (y Cofis) wedi bod yn gweithio gydag artistiaid lleol i ddatblygu’r darnau o gelf anhygoel yma sy’ cynnwys arddangosfa flaengar arloesol o graffiti, mewnosodiadau sain, caleidoscopau, pebyll tipi, animeiddiad a ffilm.
Mae Cipio’r Castell yn un o wyth o ddigwyddiadau Crochan a Ffwrnais, fydd yn adrodd straeon hynod mewn mannau hynod yn rhai o safleoedd eiconig Cadw rhwng y 16 Mehefin â 17 Gorffennaf. Bydd miloedd o bobl ifanc yn rhannu hanes lliwgar eu cenedl o’r dechrau chwedlonol i’r cyfnod modern gydag ymwelwyr o bedwar ban byd. Ar y ffordd fe fyddan nhw’n darganfod amrywiaeth, sgiliau a thalentau’r 17,000 o bobl ifanc ac artistiaid fydd yn cymryd rhan.
Mae Crochan a Ffwrnais yn bartneriaeth rhwng Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r prosiect yn rhan o Grym y Fflam, a chafodd ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth y DU, elusen annibynnol sy’n creu gwaddol barhaus o Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 trwy ariannu talentau lleol i ysbrydoli creadigrwydd ar draws y DU.
Dywedodd Clare Williams, rhaglennydd digwyddiadau creadigol Crochan a Ffwrnais: 'Mae pobl ifanc yr ardal wedi creu gweithiau celf a pherfformiadau anhygoel. Rydyn ni’n rhagweld y bydd yr ymwelwyr yr un mor gynhyrfus â ni i weld penllanw’r holl waith caled yma yn y gosodiad ysblennydd yng nghastell Caernarfon ym Mis Gorffennaf.'
Dywedodd Gwawr Roberts o Gyngor Gwynedd, sy’n cyflenwi’r digwyddiad ar gyfer Crochan a Ffwrnais: 'Mae hwn yn brosiect cymunedol sy’n cynnwys pobl ifanc o Arfon a Môn mewn rhaglen liwgar o weithgareddau celf. Mae nifer o grwpiau gwahanol, yn cynnwys y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, ysgolion a sefydliadau cymunedol lleol wedi bod yn gweithio dan arweiniad artistiaid proffesiynol i gyflenwi’r dathliad cyffrous ac arloesol yma o’n treftadaeth. Rydyn ni’n falch iawn o gael bod yn rhan o’r dathliadau gwych yma o’r Gemau Olympaidd, mae’n gyfle ffantastig i ni a’r holl bobl eraill sy’n cymryd rhan.'
Mae mynediad i’r Castell am ddim gyda band garddwrn Cipio’r Castell. Gellir cael rhain o’r 1af Mehefin o www.visitsnowdonia.info neu o Ganolfan Groeso Caernarfon – 01286 672 232.
Bydd y digwyddiadau Crochan a Ffwrnais eraill ar draws de Cymru hefyd yn rhoi cyfle i bobl leol ac ymwelwyr fwynhau amrywiaeth o brofiadau diwylliannol fydd yn helpu i ddod â hanes Cymru’n fyw.
Bydd dilynwyr celf a diwylliant yn cael eu diddanu mewn digwyddiad ysblennydd dwy noson o gerddoriaeth a dawns wrth i saith canrif o hanes Cymru ddod yn fyw yng Nghastell Harlech ac adrodd straeon (16–17 Gorffennaf) , gwaith pypedau a cherfluniau o dân ddweud hanes yr Oes Efydd yng Nghastell Dinbych (8 Gorffennaf).
Mae Cadw wedi gosod her i bobl i fynychu cynifer o ddigwyddiadau â phosibl er mwyn cael y cyfle i ennill un o bump aelodaeth blynyddol ar gyfer teulu. Am fanylion am sut i gymryd rhan mynnwch daflen Crochan a Ffwrnais mewn safle sy’n cymryd rhan.
Am fwy o wybodaeth am Crochan a Ffwrnais a sut y gallwch gymryd rhan, ewch i dudalen Crochan a Ffwrnais ar ein gwefan, chwiliwch am Cadw ar Facebook neu dilynwch ar Twitter.
Dilynwch y daith ar-lein #CF12