Plas Mawr

Atyniad Ardystiedig - Cymru
  • Plas Mawr

    Plas Mawr

  • Plas Mawr

    Plas Mawr

  • Plas Mawr

    Plas Mawr

  • Plas Mawr

    Plas Mawr

Saif Plas Mawr fel symbol o oes lewyrchus a bywiog.

Oes Elisabeth. Oes aur? Y Dadeni, Shakespeare…a Phlas Mawr. Trysor o oes Elisabeth – gwerth ei bwysau mewn aur. Y tŷ trefol gwychaf o’i gyfnod ym Mhrydain.

Roedd ei berchennog Robert Wynn, masnachwr dylanwadol uchel ei barch, yn arbennig o hoff o fawredd a lliw. Roedd hefyd yn hoff o westeia – ac yn ŵr hael! Ac yn goron ar y cyfan, tŷ crand a adeiladwyd rhwng 1576 a 1585 yng nghanol strydoedd coblog cul tref ganoloesol Conwy. Tŷ a oedd yn bodloni ei ddyheadau mawr.

Yr hyn sy’n arbennig o wych yw’r gwaith plastr addurniadol yn y neuadd, sydd bellach wedi’i ail-baentio yn ei liwiau llachar gwreiddiol. Mae pob rhan o’r tŷ yn creu argraff, o’r gwaith plastr ar y nenfydau i’r ffrisiau a’r gwaith coed gwych. Chwiliwch am y llythrennau ‘RW’ sy’n ymddangos yn yr arfbeisiau... rhag ofn i chi anghofio pwy oedd meistr y tŷ a’r gŵr oedd yn talu’r biliau.

Pe bai cyfoeth yn cael ei fesur yn ôl ffasiwn, roedd yr uchelwr hwn o Gymro a oedd wedi gweld y byd yn hynod gyfoethog.

Mae arddangosiadau aml-synhwyrol ar gael sy’n rhoi gwybodaeth fanylach am hanes Plas Mawr. Rydym yn eich argymell i fanteisio i’r eithaf ar ein technoleg sgrîn-gyffwrdd!

Ydych chi’n bwriadu ymweld â Chastell Conwy? Beth am brynu tocyn diwrnod ar y cyd?

Digwyddiadau yn Plas Mawr

Gweld pob digwyddiad yma

Oriau Agor

Dyddiadau
1 Hydref - 4 Tachwedd 2018

Amseroedd

Bob dydd 9.30am - 4.00pm

Mynediad olaf 45 munud cyn cau

Admission costs

Oedolyn - £6.90 / £11.50**
Teulu - £20.00* / £33.40**
Aelod - Am ddim/Free
Pobl anabl a chydymaith - Am ddim/Free

Myfyrwyr a phlant o dan 16 - £4.10 / £6.90**

Pensiynwyr - £5.50 / £9.20**

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn o dan 16 oed

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Tocyn mynediad ar y cyd Castell Conwy/Plas Mawr

Prisiau’n ddilys tan Mawrth 2019

Cyfleusterau a gwybodaeth

Taith sain Arddangosfa Gardd Siop rhoddion Dim ysmygu Maes parcio â thâl Dolen sain gludadwy Toiledau Cyflwyniad fideo
  • PlasMawr@llyw.cymru   
  • Mae tŷ bach ar gael i bobl sydd ag anabledd neu sy'n ei chael yn anodd symud o gwmpas
  • Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
  • Cŵn cymorth yn unig
  • Dim ysmygu
  • Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
  • Mae'r safle hwn wedi ei gofrestru ar wefan No Fly Drones http://www.noflydrones.co.uk
Gweld yr holl wybodaeth i ymwelwyr
Nid yw Javascript yn gweithio ar y porwr hwn ac ni ellir dangos y map. I weld y map, trowch Javascript ymlaen a diweddarwch y dudalen.

Cyfarwyddiadau

Cod post LL32 8DE

Car Ffordd Conwy ar yr A55 neu’r B5106.

Rheilffordd Rheilffordd 2km/1.3mllr Cyffordd Llandudno neu 0.6km/0.4mllr Gorsaf Conwy, ar lwybr Crewe-Cyffordd Llandudno/Caergybi.

???locationMapDirections.directions.bus.image_alt??? Bws 200m/220 llath, llwybr Rhif 5, Caernarfon - Conwy/Llandudno

???locationMapDirections.directions.bike.image_alt??? Beic NCN Llwybr Rhif 5 (150m/164llath).

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.